Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
![]() | |
Math | ysgol, bilingual school ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangawsai ![]() |
Sir | Aberystwyth, Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.41°N 4.07°W ![]() |
Cod post | SY23 3QN ![]() |
![]() | |
Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig | |
---|---|
![]() | |
Sefydlwyd | 1973 |
Math | Ysgol Gyfun Gymunedol[1] |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Dr Rhodri Thomas |
Dirprwy Bennaeth | Miss Rhian Morgan |
Lleoliad | Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3QN |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | tua 660 (2005)[2] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Du |
Gwefan | penweddig.ceredigion.sch.uk/cy/ |
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Cymraeg yn nhref glan-môr Aberystwyth yw Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ac fe'i henwyd ar ôl yr hen gantref o'r un enw (Penweddig). Sefydlwyd yr ysgol yn 1973[3] fel ysgol ddwyieithog i blant gogledd Sir Ceredigion, ond ysgol Gymraeg yw hi bellach. Noda Prospectws yr ysgol mai'r 'Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a hi hefyd yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol.' Nodir hefyd fod gwaith dyngarol yn elfen amlwg o waith a thraddodiad yr ysgol.[4] Mae gan yr ysgol tua 600 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Mae canlyniadau arholiadau allanol, ar bob lefel, yn sylweddol uwch na chanlyniadau cyfartalog Cymru ac mae'r ysgol ymhlith yr ugain ysgol orau yng Nghymru. Mae bron traean o’r disgyblion yn derbyn gwersi offerynnol neu leisiol a cheir adnoddau da, gyda 7 labordy a 7 gweithdy celf a dylunio a thechnoleg.[5]
Adeiladau[golygu | golygu cod]
Y cwmni Atkins sy'n berchen ar adeilad yr ysgol, ac mae'n cael ei logi i'r Cyngor Sir i'w ddefnyddio fel ysgol.
Agorodd yr ysgol mewn hen adeilad ar Ffordd Dewi, Aberystwyth, adeilad roedd y cyngor yn berchen arno. Ym mis Hydref 2001 symudwyd yr ysgol i'w chartref presennol ar Ffordd Llanbadarn.
Gwerthoedd[golygu | golygu cod]
- Parchu eich hunain ac eraill
- Parchu eiddo ac amgylchedd
- Parchu'r ysgol
- Defnyddio'r iaith Gymraeg hyd eithaf eich gallu.
- Parchu rygbi
Cyn-ddisgyblion nodedig[golygu | golygu cod]
- Aled Haydn Jones - cynhyrchydd ar The Chris Moyles Show[6]
- Esyllt Sears - comediwraig
- Georgia Ruth - cantores[7]
- Gwyneth Keyworth - actores[8]
- Jacob Ifan - actor[9]
- Telor Gwyn - darlunydd llyfrau
- Aled Llyr - actor
- Rhys ap Hywel - actor
- Aelodau Race Horses - band a berfformiodd yng Ngŵyl Glastonbury yn 2007[10]
- Aelodau Sorela - triawd o chwiorydd sy'n canu caneuon yn Gymraeg
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan yr ysgol; adalwyd 27 Chwefror 2017.
- ↑ Adroddiad arolygiad Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Estyn (2005).
- ↑ Blaenair gan y prifathro (Saesneg). Ysgol Gyfun Penweddig.
- ↑ Prospectws yr ysgol; adalwyd 20 Mawrth 2015
- ↑ Arlowg 2005; dyfynwyd ym Mhrospectws yr ysgol: “Mae adnoddau da ar gyfer pob pwnc. Gwna’r disgyblion ddefnydd da iawn o’r ganolfan adnoddau, lle mae stoc dda iawn o lyfrau. Mae ansawdd yr adeiladau’n rhagorol.”; adalwyd 20 Mawrth 2015
- ↑ Aled Haydn Jones' Biography. BBC Wales.
- ↑ "Proffil Georgia Ruth Williams". Facebook.
- ↑ Edwards, Efa (Rhagfyr 2008). "AGI! AGI! AGI!". Y Tincer Rhif 314: 1. https://www.trefeurig.org/uploads/ytincerrhagfyr314.pdf. Adalwyd 2019-03-28.
- ↑ "Film and TV stars band together to support Arts Centre". Cambrian News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-26. Cyrchwyd 2019-10-08.
- ↑ Schiavone, Owain (Mawrth 2009). "CARLAMU I'R BRIG". Y Selar Rhifyn 17: 4, 5. https://issuu.com/y_selar/docs/yselarmawrth09/4.