Sorela
Enghraifft o'r canlynol | triawd cerddorol |
---|
Triawd o chwiorydd sy'n canu caneuon yn Gymraeg yw Sorela. Maent yn perfformio caneuon gwerin, cyfoes Cymraeg a chyfieithiadau a chaneuon poblogaidd Saesneg yn ddi-gyfeiliant.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Sorella (gyda dwy 'l') yw'r gair Eidaleg am "chwaer" [1] sy'n esbonio enw'r grŵp yma o dair chwaer, Lisa Angharad,[2] Gwenno Elan, Mari Gwenllian. Sefydlwyd y grŵp yn 2014. Maent yn ferched i'r gantores werin adnabyddus, Linda Griffiths bu'n canu gyda'r grŵp gwerin Plethyn. Mae Lisa Angharad hefyd yn un o gyfwynwyr BBC Radio Cymru 2.
Mae'r merched yn hanu o Aberystwyth a buont yn mynychu Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.
Cabarela
[golygu | golygu cod]Mae Sorela yn un o drefnwyr, prif perfformwyr a chyflwynwyr cyngherddau cabaret, Cabarela. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon a hiwmor oedolion. Ymysg y perfformwyr eraill mae Hywel Pitts a'r Welsh Whisperer. Cafwyd Taith Nadolig Cabarela yn 2018.[3][4] Bu iddynt drefnu daith genedlaethol adeg Nadolig 2022[5] a hefyd 2023 gan berfformio yn; Pontio Bangor; Neuadd William Aston, Wrecsam; Theatr Derek Williams, Y Bala, Glee Club, Caerdydd, Y Ffwrnes, Llanelli; a Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[6] gyda thriawd Sorela a'r perfformwyr: Miriam Isaac, Meilyr Rhys Williams, Hywel Pitts, Iestyn Arwel, ac Elain Llwyd.[7]
Disgograffi
[golygu | golygu cod]- Sorela (Recordiau Sain, 2014, rhif catalog Sain SCD2755 [8]
Detholiad o Ganeuon
[golygu | golygu cod]- Ceir Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Sorela gan gwmni Recordiau Sain
- Rhai o ganeuon Sorela a chwareir ar y BBC.[9]
- Sorela yn canu Medli o ganeuon Nadolig ar raglen 'Sioe Frecwast Caryl a Daf' ar BBC Radio Cymru2, Rhagfyr 2018.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://cy.glosbe.com/it/cy/sorella
- ↑ http://www.lisaangharad.com/sorela.html
- ↑ https://www.facebook.com/events/232034494143986/
- ↑ https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2018/cabarela-nadolig/
- ↑ "Cabarela Dolig 2022 (Galeri Caernarfon) 10/12/2022". Aaron Pleming. 10 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Pwy sy'n Dwad?". Tudalen Facebook Cabarela. 28 Medi 2023.
- ↑ "Sgwrs â'r actor a'r canwr Meilir Rhys Williams". Y Ddraig cylchgrawn myfyrwyr Aberystwyth. 2023.
- ↑ https://sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd2755[dolen farw]
- ↑ https://www.bbc.co.uk/music/artists/7ab509c3-7abe-48e5-963a-555b86e34b6a?lang=cy[dolen farw]
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=1-N5h873vlA
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Sorela ar Facebook
- Sorela ar Twitter
- Gwefan Lisa Angharad, Sorela
- @CabarelaCymru tudalen Facebook y grŵp
- @CabarelaCymru tudalen Instagram y grŵp