Cabaret

Oddi ar Wicipedia
Helena Mattsson, Donnie S. Ciurea, Patrik Hont a Magnus Sellén yn perfformio "Havana for a Night" yn y cabaret A Little Tribute Westward yn y Blue Moon Bar yn Stockholm, Sweden, yn 2003 Llun wrth:F.U.S.I.A..

Math o adloniant sy'n cynnwys comedi, canu, dawns a theatr ydy cabaret. Un o brif nodweddion cabaret yw'r lleoliad lle cynhelir y perfformiad - yn aml, mewn bwyty neu glwb nos gyda llwyfan a chyda'r gynulleidfa'n eistedd wrth fyrddau (yn aml yn bwyta neu'n yfed) tra'n gwylio'r perfformiad a gyflwynir gan yr MC, (o'r Saesneg:Master of ceremonies).

Gall cabaret gyfeirio hefyd at fath o buteindy Mediteranaidd, sef bar gyda byrddau lle mae menywod yn cymysgu â'r cwsmeriaid. Yn draddodiadol, gallai sefydliadau o'r fath gynnwys rhyw fath o adloniant, yn gantorion a dawnswyr gan amlaf.

Cabaret enwog[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]