Melbourne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Melbourne
Melbourne Infobox.png
Daearyddiaeth
Statws: Dinas (1847)
Pencadlys: Melbourne
Arwynebedd: 7,694 km²
Demograffeg
Poblogaeth (2015) 4,529,500
2,181 / km²
Gwleidyddiaeth
http://www.melbourne.vic.gov.au/
Maer: John So
Arcâd, Stryd Flinders

Melbourne yw prifddinas talaith Victoria, yn Awstralia. Yn 2015 roedd gan y ddinas boblogaeth o 4,529,500. Melbourne yw dinas fwyaf Victoria, gyda dros 70% o drigolion y dalaith yn byw yno.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Melbourne ei sefydlu ym 1835, pan gyrhaeddodd gwladychwyr o Launceston, yn Tasmania. Tyfodd y ddinas yn sylweddol iawn ar ôl 1851, pan ddarganfuwyd aur yn yr ardal rhwng Ballarat a Bendigo, yng nghanolbarth Victoria.

Pan gafodd Awstralia ei annibyniaeth ym 1901, cafodd Melbourne ei wneud yn sedd y llywodraeth, tan 1927, pan wnaed Canberra yn brifddinas newydd y wlad.

Ym 1956 cafodd y Gemau Olympaidd eu cynnal yn y ddinas.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae yna nifer o fudwyr wedi symud i Melbourne dros y blynyddoedd. Cafwyd 43% o bobl sy'n byw yn Melbourne eu geni tu allan i Awstralia. Dangosir y cynnydd ym mhoblogaeth Melbourne yn y tabl isod.

Poblogaeth Melbourne
y flwyddyn
1836 177
1851 29,000
1854 123,000 (gold rush)
1860 140,000
1880 280,000
1890 490,000
1895 900,000 (cwymp economaidd)
1956 1,500,000
1981 2,806,000
1991 3,156,700 (dirwasgiad)
2001 3,366,542
2004 3,592,975
2006 3,720,300 (amcangyfrif 2006)
2030 4,500,000 (rhagamcaniad)

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorsaf reilffordd Stryd Flinders

Trenau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorsaf reilffordd Melbourne (Canolog)

Agorwyd rheilffordd rhwng Melbourne a Sandridge (erbyn hyn Porthladd Melbourne) ar 12 Medi 1854 a daeth eraill i Sant Cilda ym 1857, Gogledd Brighton ym 1859, Hawthorn ym 1861 ac Essendon ym 1960. Wedi darganfod aur yn Victoria]], agorwyd rheilffyrdd i Sunbury ym 1859, Bendigo ym 1862 ac Echuca ym 1864.

Trydaneiddiwyd y rheilffyrdd maestrefol o 1919 ymlaen.[1]

Mae Gorsaf reilffordd Stryd Flinders y brif orsaf ar gyfer gwasanaethau lleol, sydd i gyd yn mynd ar gylch tanddaearol o dan ganol y ddinas. Mae rhai o'r gwasanaethau V line i drefi eraill yn dalaith Victoria yn mynd o Stryd Flinders.

Mae gwasanaethau eraill V line tu mewn Victoria, a hefyd gwasanaethau i Adelaide a Sydney yn defnyddio Gorsaf reilffordd Croes y De.

Tramfyrdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Tram ar Stryd Flinders

Mae gan Melbourne rwydwaith eang o dramffyrdd trydanol. Yn wreiddiol defnyddiwyd ceffylau, ond dechreuodd gwasanaeth rhwng Melbourne a Richmond yn defnyddio ceblau ar 11 Tachwedd 1885 ac estymwyd y rhwydwaith yn sydyn. Dechreuodd tramfyrdd trydanol ym 1889[2]

Bysiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd gwasanaethau bws yn 1860au, eto'n defnyddio ceffylau.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb rhyfel 'Driver a Wipers'
  • Eglwys Gadeiriol Sant Pawl
  • Gerddi Fitzroy
  • Neuadd y Dref
  • Theatr y Dywysoges
  • Tŵr Rialto
  • Tŷ'r Senedd

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofadail Rhyfel Melbourne

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinaswedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ardal Dociau Melbourne
Magnify-clip.png
Ardal Dociau Melbourne


Prifddinasoedd Awstralia

Baner Awstralia

Adelaide (De Awstralia) | Brisbane (Queensland) | Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) | Darwin (Tiriogaeth Gogleddol) | Hobart (Tasmania) | Melbourne (Victoria) | Perth (Gorllewin Awstralia) | Sydney (De Cymru Newydd)



Dinasoedd Victoria

Baner Victoria

Prifddinas: Melbourne
Dinasoedd: Ararat | Ballarat | Benalla | Bendigo | Geelong | Hamilton | Horsham | Moe | Morwell | Mildura | Portland | Sale | Shepparton | Swan Hill | Traralgon | Wangaratta | Warrnambool | Wodonga