Gorsaf reilffordd Stryd Flinders, Melbourne
| Math | gorsaf reilffordd, adeilad gorsaf, gorsaf ar lefel y ddaear |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Flinders Street |
| Agoriad swyddogol | 12 Medi 1854 |
| Cysylltir gyda | Town Hall |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+11:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Melbourne central business district |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 37.8181°S 144.9668°E |
| Rheilffordd | |
| Nifer y platfformau | 13 |
| Nifer y teithwyr | 24,641,000 ±500 (–2009), 24,670,000 ±500 (–2010), 25,187,000 ±500 (–2011), 26,187,000 ±500 (–2012), 27,960,000 ±500 (–2014), Unknown (–2013) |
| Rheolir gan | Metro Trains Melbourne |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Art Nouveau architecture |
| Perchnogaeth | VicTrack |
| Statws treftadaeth | listed on the Victorian Heritage Register |
| Manylion | |
Gorsaf reilffordd Stryd Flinders ym Melbourne yw orsaf hynaf yn Awstralia a'r un brysuraf yn hemisffer y de. Saif yr orsaf ar gornel strydoedd Flinders a Swanston, ar lan Afon Yarra.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd yr orsaf wreiddiol, Terminws Melbourne, ym 1854, â lein i Sandridge (Porthladd Melbourne bellach). Erbyn yr 1880au, roedd trenau'n mynd i Sant Cilda hefyd.
Adeiladwyd traphont ym 1888, gan ganiatáu gwasanaeth ehangach, a chynlluniwyd gorsaf newydd ym 1889 gan y penseiri James Fawcett ac H.P.C Ashworth. Agorwyd yr orsaf newydd ym 1910, yn cynnwys y clociau enwog sydd yno hyd at heddiw.[2]

Heddiw
[golygu | golygu cod]Gorsaf Stryd Flinders yw prif orsaf i rwydwaith trenau lleol y ddinas, yn gwasanaethu leiniau Alamein, Belgrave, Craigieburn, Cranbourne, Frankston, Glen Waverley, Hurstbridge, Lilydale, Pakenham, Sandringham, South Morang, Sunbury, Upfield, Werribee a Williamstown.[3] Mae dros 150,000 o bobl yn defnyddio'r orsaf pob dydd.[4]
