Linda Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Linda Griffiths
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata

Cantores Gymreig yw Linda Griffiths (ganwyd 1958) sy'n fwyaf adnabyddus am ganu yn y grŵp gwerin Plethyn.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o Fferm Pen Bryn rhwng Meifod a Phontrobert, fe'i ganed yn y Trallwng, a'i haddysgu yn Ysgol Gynradd Pontrobert ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd y Gymraeg ac Addysg.

Plethyn[golygu | golygu cod]

Ffurfiodd y grŵp gwerin Plethyn gyda Jac Gittings a Roy Griffiths yn ei harddegau, a'r grŵp hwn fu prif gyfrwng ei llais pur a naturiol am flynyddoedd lawer. Nodweddwir eu harddull gan barch at draddodiad y plygain, a sylw i alaw draddodiadol a chynghanedd gerddorol, a chanu soniarus di-ymdrech. Hanner y stori yw'r canu, fodd bynnag, gan fod Plethyn hefyd, drwy eu caneuon yn adrodd straeon am eu hardal genedigol a'i chymeriadau, a hynny mewn ffordd hyfryd o ddi-sentiment.

Yn anad unrhyw grŵp arall o unrhyw ran arall o Gymru, mae modd cyplysu llais Linda a harmoneiddio Plethyn gyda darn o dir ac ymdeimlad o le arbennig, a bro Maldwyn yw hwnnw, wrth gwrs.

Rhyddhaodd Plethyn naw casgliad, ac maent yn cynnwys Blas y Pridd, Golau Tan Gwmwl, Rhown Garreg ar Garreg, Teulu'r Tir, Caneuon Gwerin i Blant, Byw a Bod, Drws Agored, Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl a Seidir Ddoe. Rhyddhawyd Goreuon Plethyn yn Eisteddfod Maldwyn yn 2003.

Gyrfa unigol[golygu | golygu cod]

Ar ei liwt ei hun, rhyddhaodd bedwar casgliad, sef Amser (1988), Plant y Môr (1993), Ôl ei Droed (2003) a Storm Nos (2009).

Yn anad neb arall, Linda Griffiths a Plethyn yw gwarchodwyr canu gwerin digyfeiliant traddodiadol Cymreig, gan lwyddo i symud y traddodiad ymlaen a pharchu ei hanfodion, a chydnabyddir ei phwysigrwydd yn yr adfywiad canu gwerin Celtaidd ym mhedwar ban byd.

Yn 2012 cafodd Linda Griffiths ei dethol i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhwng 1998 a 2002, bu'n un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Cwmni Hon ar S4C.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ar ôl y brifysgol, gweithiodd mewn swydd weinyddol cyn gadael i fagu tair o ferched (Lisa, Gwenno a Mari) yn ogystal â rhedeg fferm fechan ym Mhenrhyncoch. Bu'r merched yn canu lleisiau cefndir i'w mam mewn cyngherddau ac aeth y dair ymlaen i ganu gyda'i gilydd yn y grŵp Sorela.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  LINDA GRIFFITHS - OL EI DROED. Sain. Adalwyd ar 26 Ionawr 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]