Plethyn
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | band ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Grŵp canu gwerin Cymraeg yw Plethyn a oedd yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995. Yr aelodau yw Roy Griffiths, Linda Healy a John Gittins. Brawd a chwaer ydy Roy a Linda, gyda John Gittins wedi ei eni ar fferm, ger Meifod ym Maldwyn.[1]
Mae eu harddull yn dangos dylanwad canu plygain yr ardal honno: cynghanedd (neu harmoni) glós, syml. Maent wedi poblogeiddio nifer o ganeuon gwerin yn ogystal â chreu caneuon newydd ar arddull draddodiadol. Y dylanwad pennaf ar y grwp oedd Elfed Lewys.
Gwaith[golygu | golygu cod]
Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Casgliadau[golygu | golygu cod]
- Blas y Pridd[2]
- Golau Tan Gwmwl[2]
- Rhown Garreg ar Garreg[2]
- Teulu'r Tir[2]
- Caneuon Gwerin i Blant[2]
- Byw a Bod[2]
- Drws Agored[2]
- Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl[2]
- Seidir Ddoe[2]
- Goreuon Plethyn (2003)[2]