Elfed Lewys
| Elfed Lewys | |
|---|---|
| Ganwyd | 1934 |
| Bu farw | 1999 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | canwr |

Roedd Elfed Lewys (1934 – 1999) yn bregethwr, yn faledwr, yn actor ac yn hyfforddwr pobl ifanc o Gymru. Ei dad oedd y Parch Morley Lewis, a'i datcu ar ochr ei dad oedd John Lewis, teiliwr ym Mlaenycoed a ddaeth yn gerddor o fri, yn godwr canu ac yn feirniad eisteddfodau lleol ac yn arweinydd côr. Brawd i John Lewis oedd Howell Elvet Lewis pregethwr, emynydd ac archdderwydd.[1]
Cafodd y Parch Morley Lewis ei ordeinio ym 1928 Modringallt, Y Rhondda, ac felly fe anwyd Elfed yn y Rhondda. Symudodd y teulu ym 1942 i Grymych ac ym 1953 i Gefneithin. Ar ôl penderfynu mynd i'r weinidogaeth aeth Elfed i Goleg Bala-Bangor ym Mangor.
Daeth yn weinidog i Lanfyllin ac er i Elfed adael ei ôl mewn sawl rhan o Gymru, does dim dwywaith mai yn ardal Llanfyllin y bu ei ddylanwad mwyaf yn dilyn iddo sefydlu Aelwyd Penllys.

Yn 2000, cyhoeddwyd bywgraffiad ohono, Elfed - Cawr ar Goesau Byr gan wasg Y Lolfa.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Elfed gyda Nansi Richards (Telynores Maldwyn)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Roberts, Ioan [18 Rhagfyr 2014] (Awst 2000). Elfed - Cawr ar Goesau Byr. Gwasg y Lolfa. ISBN 0862435277. URL