Canu gwerin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y ddeuawd DnA (Delyth & Angharad Jenkins); ffidil a thelyn. Cân draddodiadol 'Glyn Tawe', o'u halbwm Adnabod.

Defnyddir y term canu gwerin fel arfer i olygu cân draddodiadol sy'n perthyn i'r gymuned gyfan, ac nid i arbenigwyr cerddorol, ac a drosglwyddwyd ar lafar yn aml tan yr 20fed ganrif. Yn aml does neb yn gwybod pwy yw awdur neu gyfansoddwr y gân. Mae canu gwerin yn rhan bwysig o ddiwylliant gwerin sawl gwlad, yn cynnwys Cymru. Gellir dosrannu canu gwerin i ganu gwerin traddodiadol ac i ganu gwerin modern neu'n ganeuon lleisiol ac offerynol. Gellir ystyried canu baledi neu garolau Plygain yn fath o ganu gwerin. Mae cryn gwahaniaeth rhwng canu gwerin a chanu gwlad, sydd fel arfer yn tarddu o America.

Gweithdy gan aelodau 'Ancience' (Andy May, Gwenan Gibbard a Mary McMaster) yng Ngŵyl Tegeingl.

Cynhelir sawl gŵyl gerddorol sy'n canolbwyntio ar ganu gwerin. Un o'r enwocaf yw Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, sy'n denu perfformwyr o sawl rhan o'r byd.

Canu gwerin Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Canu gwerin Cymraeg

Mae Meredydd Evans, Elfed Lewys, Arfon Gwilym a Lynda Healey yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae Ar Lôg a Calan yn grwpiau gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn yn y 1970au a'r 1980au; ymhlith y grwpiau gwerin yr oedd: Clochan, Cilmeri, Plethyn, 4 yn y Bâr, Bwchadanas a'r Hwntws.

Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan Roy Saer o Sain Ffagan ers 1963 e.e. Cân y Cythreiniwr a gellir clywed rhagor ohonynt ar wefan yr Amgueddfa.[1]

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Canu Gwerin, ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.[2] Sefydlwyd prosiect i gofnodi a hyrwyddo cerddoriaeth werin draddodiadol, sef Pan Cymru yn Hydref 2012.[3]

Gweler hefyd Wefan Baledi Cymru [1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]