Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, mudiad gwirfoddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1906 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.canugwerin.com/en/index.php Edit this on Wikidata
Pibgyrn Y glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl.

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn Llangollen ar 2 Medi, 1906. Nod y gymdeithas oedd i gasglu cerddoriaeth werin a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'

Mae Canu Gwerin, sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar ei gwefan ac ambell erthygl Saesneg yn ei chylchgrawn..

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas oedd Dr J. Lloyd Williams, darlithydd mewn botaneg ym Mhrifysgol Bangor oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd y coleg. Sefydlodd barti canu o blith ei fyfyrwyr gan eu hannog i gofnodi hen ganeuon llafar gwlad yn ystod eu gwyliau.[1]

O fewn hanner can mlynedd o'i sefydlu roedd y Gymdeithas wedi llwyddo i gasglu bron i 600 o ganeuon traddodiadol Cymraeg.

Mae gan y Gymdeithas raglen gyhoeddi gyson ac uchelgeisiol. Yn 1988 ailargraffwyd, dan olygyddiaeth Daniel Huws, gasgliad pwysig Maria Jane Williams a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1844.

Roedd Annie Jane Hughes Griffiths, gweddw'r Aelod Seneddol dros Meirionnydd, Thomas Edward Ellis ac, maes o law, arweinydd dirprwyaeth Apêl Heddwch Menywod Cymru yn 1923-24, yn aelod cynnar gweithgar a hael.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyn Jenkins, gol. (1999). Llyfr y Ganrif. Y Lolfa. ISBN 0-86243-504-8.
  2. Thomas, Wyn (2007). "Annie Ellis 'Cwrt Mawr', Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru". Gwerddon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]