Pan Cymru

Oddi ar Wicipedia

Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a chwmni teledu Telesgop ydy Pan Cymru a sefydlwyd ym mis Hydref 2012 er mwyn hybu cerddoriaeth draddodiadol. Cefnogir y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Gyda ymweliad gŵyl Womex â Chaerdydd yn 2013 mae'r brosiect yn ceisio adlewyrchu'r twf mewn cerddoriaeth werin gyfoes [angen ffynhonnell] drwy ei hyrwyddo ar rwydweithiau cymdeithasol megis You Tube a blogiau[1][2]. Yn ogystal â hyn mae enwogion yn y maes gwerin megis y Dr Meredydd Evans a Bethan Bryn wedi cyfrannu'n helaeth at wefan Ŵyl Gerdd Dant 2013 ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.[2]

Mae sylfaenwr y prosiect Pan Cymru, sef Wyn Williams, wedi sefydlu cwmni aml-gyfryngol ei hun sef Dai Lingual, ac mi oedd yn un o Gyfeillion Y Cymro a ail-lansiodd papur newydd Y Cymro yn 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]