Cân y Cythreiniwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Peintiad o wedd o ychen yn Nevers, Ffrainc, gan Rosa Bonheur (1849). Musée d'Orsay, Paris
Aredig gyda cheffylau tua 1885 yng Nghymru. Byddai Robert Thomas y canwr yn ugain oed pan dynnwyd y llun.

Cân werin draddodiadol yn nhafodiaith Bro Morgannwg yw Cân y Cythreiniwr. 'Cythreiniwr' (neu fel arfer 'cethrenwr') oedd yr enw ar ddyn gyrru'r ychen, pan fo'n aredig; fe'i cofnodwyd yn gyntaf yng Ngeiriadur John Davies yn 1632: geilwad ychen.

Ffeil sain o recordiad a wnaed ym Medi 1953[golygu | golygu cod y dudalen]

Recordiad (Tâp AWC 4) a wnaed ym Medi 1953 gan Sain Ffagan o Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), Rock House, Twynyrodyn, ger Gwenfô, Sir Forgannwg.

Recordiwyd ar ffurf tâp gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ym Medi 1953 gan Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), Rock House, Twynyrodyn, ger Gwenfô, sir Forgannwg. Ac yntau ond 13 oed dysgodd RT ganu'r tribannau hyn a'u bath wrth helpu i gathrain (sef gyrru neu symbylu) ychen a oedd yn aredig ar fferm Doghill yn Nyffryn Golych, ger Sain Nicolas.

Yn aml, amherffaith ac anghyson oedd ieithwedd y gân hon fel y'i recordiwyd, a cheisiwyd unioni ar bethau wrth ei darparu ar gyfer ei chyhoeddi.

Y gân[golygu | golygu cod y dudalen]

Cythreiniwr.PNG


Mae geirfa'r gân hon yn nhafodiaith Bro Morgannwg. Ers canrifoedd bu defnyddio caniadau neu alwadau o ryw fath i annog ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o'r penillion (ynghȳd â'r alaw ddiweddol) a genid i'r wedd ychen yn y deheudir. Yno – ac ym Morgannwg yn benodol – y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru (hyd tuag 1880). Ar fesur triban y mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ychen a gadwyd o Forgannwg. Ceir ymhlith y rhain lawer o dribannau serch a thribannau trioedd, i enwi ond dau ddosbarth, ac amlygir yn y goreuon gynildeb ac arabedd anghyffredin. Unedau hunan–gynhaliol yw'r mwyafrif o'r penillion hyn eithr peth arferol wrth ddilyn y wedd aredig oedd llinynnu nifer ohonynt ynghyd a'u canu yn un gyfres.

Geiriau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mi geso i 'ngwawdd i swpar
Gan ŵr bon(h)eddig (h)awddgar
A chal nidir wedi'i lladd
A phetar gwadd a wiwar! Ma–hw!

Mi geso i 'ngwawdd i gino
A chal pinclwns wedi'u stiwo,
Bara (h)aidd fel r(h)isgil co(e)d;
Ni cheso i 'rio(e)d well greso! Ma–hw!

Tri pheth sy dda gin grotyn
Yw gwraig y tŷ yn w(h)erthin
A'r crochon bach yn berwi'n ffrwd
A llond y cwd o bwdin. Ma–hw!

Tri pheth sy’n gas a lletwith
Yw (h)wch â iwc miwn gwenith,
Atgor gwan yn torri ton
A phac o gryddion llaw–w(h)ith! Ma–hw!

Tri pheth an-(h)awdd eu 'napod:
Dyn, derwan a diwarnod;
Y pren yn gou a'r dydd yn troi
A dyn yn ddouwynepog. Ma–hw!

Cydnabyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r recordiad a'r nodiadau uchod o wefan Sain Ffagan, gyda chaniatâd Beth Thomas, Curadydd.