Ar Log

Grŵp cerddoriaeth gwerin o Gymru yw Ar Log.
Sefydlwyd y grŵp yn 1976, gyda Dave Burns (gitar), Dafydd Roberts (telyn deires, ffliwt), Gwyndaf Roberts (telyn ben glin a gitar bâs) a Iolo Jones (ffidil). Daethpwyd a hwy at ei gilydd gan Fwrdd Twristiaeth Cymru, oedd yn awyddus i gael grŵp yn perfformio cerddoriaeth werin draddodiadol Cymru yn Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient y flwyddyn honno. Yno, daethant i gysylltiad a'r grŵp Gwyddelig The Dubliners, a awgrymodd y dylent aros gyda'i gilydd a throi'n broffesiynol.
Mae aelodau'r grŵp wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Yn y 1980au roedd ganddynt gysylltiad agos a Dafydd Iwan, a buont ar ddwy daith gydag ef yn 1982 a 1983. Roedd y gyntaf, Taith 700, yn nodi 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.
Mae Ar Log wedi rhyddhau 1 sengl, 9 albwm a 3 casgliad o 1978 i 2024. Hefyd, mae Ar Log wedi rhyddhau 2 sengl, 2 albwm ac 1 casgliad gyda Dafydd Iwan o 1982 i 2022.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Senglau
[golygu | golygu cod]| Enw | Blwyddyn | Label |
|---|---|---|
| The Carmarthen Oak | 1980 | Dingle's Records |
Albymau
[golygu | golygu cod]| Enw | Blwyddyn | Label |
|---|---|---|
| Ar Log | 1978 | Dingle's Records |
| Ar Log II | 1980 | Dingle's Records |
| Ar Log III | 1981 | Dingle's Records |
| Meillionen | 1983 | Dingle's Records |
| Pedwar IV | 1984 | Recordiau Ar Log |
| Ar Log V | 1988 | Sain |
| Ar Log VI | 1996 | Sain |
| Saith VII | 2018 | Sain |
| Y Ddwy Chwaer/The Two Sisters | 2024 | Sain |
| Ar Log VIII | 2026 | Sain |
Casgliadau
[golygu | golygu cod]| Enw | Blwyddyn | Label |
|---|---|---|
| o IV i V | 1991 | Sain |
| Ar Log: I-III: 1976-1981 | 2001 | Sain |
| Goreuon Ar Log | 2007 | Sain |
Gwaith Gyda Dafydd Iwan
[golygu | golygu cod]| Enw | Blwyddyn | Label | Math |
|---|---|---|---|
| Cerddwn Ymlaen | 1982 | Sain | Sengl |
| Rhwng Hwyl a Thaith | 1982 | Sain | Albwm |
| Yma o Hyd | 1983 | Sain | Albwm |
| Rhwng Hwyl a Thaith ac Yma o Hyd | 1993 | Sain | Casgliad |
| Yma o Hyd - Cwpan y Byd (Gyda "Y Wal Goch") | 2022 | Sain | Sengl |