Diwylliant gwerin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Enw ar gredoau traddodiadol, arferion gwlad, a gwneuthurbethau sy'n perthyn i gymdeithas neu gymuned werin benodol yw diwylliant gwerin. Mae'n cynnwys yr holl elfennau sy'n gysylltiedig â phatrymau ieithyddol, gweithgareddau ac ymddygiadau cymdeithasol, credoau a bydolwg, ac arteffactau sy'n neilltuol i'r grŵp dan sylw. Mae'n deillio o graidd gyfundrefnol yr hunaniaeth ddiwylliannol a arddelir gan y grŵp, ac yn adlewyrchu amcanion, diddordebau, safonau, moesau, a gweithgareddau'r grŵp. Trosglwyddir diwylliant gwerin wrth i aelodau'r grŵp rhyngweithio gyda'i gilydd a chymryd rhan gymdeithasol, yn wahanol i ffurfiau ar uwchddiwylliant, er enghraifft y celfyddydau cain, a ddysgir drwy ddulliau ffurfiol.[1]

Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae astudiaethau diwylliant gwerin yn cynnwys dulliau methodolegol megis ethnograffeg, damcaniaeth llên gwerin, cymhariaethau croesddiwylliannol, dogfennaeth hanesyddol, gorddwythiadau sy'n cyfuno hanesyddiaeth a daearyddiaeth ddynol, dadansoddiadau seicolegol, a dadansoddiadau economaidd. Cychwynnodd diwylliant gwerin fel maes ysgolheigaidd ar sail syniadau rhamantaidd ynglŷn â thraddodiadau hynafol y werin bobl, mewn cyferbyniad â diwylliant y bendefigaeth. Cafodd arferion gwlad eu dehongli'n ffurfiau cyntefig ar wareiddiad. Bu cenedlaetholwyr Ewropeaidd yn canolbwyntio ar ddiwylliant gwerin mewn ymgais i olrhain llinach ddiwylliannol eu cenedl neu grŵp ethnig benodol. Ers y 1960au, mae astudiaethau diwylliant gwerin wedi ymwneud â diwylliannau trefol yn ogystal â chefn gwlad, a chymunedau o fewnfudwyr yn ogystal â brodorion.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Randal S. Allison, "Folk culture" yn Folklore: An Encyclopedia of Beliefs, Customs, Tales, Music, and Art, golygwyd gan Thomas A. Green (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2007), tt. 316–17.