Cenedl

Oddi ar Wicipedia
Cenedl
Enghraifft o'r canlynolconstruct, cysyniad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Mathgrŵp o bobl Edit this on Wikidata
Rhan odynoliaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am genedl yn yr ystyr ddiwylliannol yw hon. Efallai eich bod yn chwilio naill ai am cenedl enwau (gramadeg) neu am rhywedd.

Cymuned ddynol sy'n rhannu tiriogaeth o ran hanes, chwedlau, llên gwerin, diwylliant, cyfraith neu draddodiadau yw cenedl. Mae'n wahanol i wlad (bro ddaearyddol) a gwladwriaeth (bro wleidyddol).

Mae aelodau'r genedl neu'r gymdeithas yn teimlo cwlwm agosrwydd, sef hunaniaeth cenedlaethol, er nad ydynt i gyd wedi cyfarfod. Gellir ei ystyried yn gymuned wedi ei ddychmygu. Mae'r syniad fod pob bob dynol yn cael eu rhannu mewn grŵpiau o'r enw cenhedloedd, yn un o athrawiaethau mwyaf dylanwadol Gorllewin Ewrop a'r Hemisffer Gorllewinol ers yr 18g hwyr.[1] Mae cenedligrwydd yn athrawiaeth moesegol ac athroniaetol ac yn bwynt cychwyn ar gyfer ideoleg cenedlaetholdeb; mae cenedl yn fath o gymuned diwylliannnol a chymdeithasol hunan-ddiffiniedig.[2] Mae aelodau "cenedl" yn rhannu huaniaeth cyffredin, a tharddiad cyffredin fel arfer, mewn hanes, llinach, teulu neu ddisgyniad. Mae cenedl yn ymestyn ar draws sawl cenhedlaeth, ac mae'r meirw yn dal i gael eu hystyried fel aelodau o'r genedl. Er enghraifft, wrth gyfeirio at "ein milwyr" wrth gyfeirio at frwydr neu ryfel a ddigwyddodd gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dictionary of the History of Ideas: s.v. "Nationalism" Archifwyd 2013-09-29 yn y Peiriant Wayback.: "Nationalism has been the idée force in the political, cultural, and economic life of Western Europe and the Western hemisphere since the late eighteenth century;" "Volksgeist" Archifwyd 2013-09-29 yn y Peiriant Wayback.; "Medieval and Renaissance ideas of Nation" Archifwyd 2013-09-29 yn y Peiriant Wayback..
  2. "Solidarity" is a watchword for a sense of national union, and the cohesive powers of "nation" may be polemically invoked in claiming a "queer nation" or other uniting theme.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am cenedl
yn Wiciadur.