Cenedligrwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hunaniaeth person yn ymwneud â chenedl yw cenedligrwydd, fel rheol mae cenedligrwydd person ynghlwm â lle'u ganwyd hwy neu genedligrwydd eu rhieni. Mae cenedligrwydd yn gysylltiedig â dinasyddiaeth, ond gall person fod â chenedligrwydd neu ddinasyddiaeth ddeuol. Er enghraifft, gall Cymro fod yn ddinesydd yr Unol Daleithiau.

Mae cenedligrwydd yn gallu bod yn bwnc dadleuol. Nid oes gan llawer o bobl o genedligrwydd megis y Llydawr neu ddinesydd o Wlad y Basg genedl a chaiff ei gydnabod yn swyddogol. Mae hyn hefyd yn wir i'r Cymry i ryw raddau, gan eu bont mewn nifer o gyd-destunau (megis ar basbort) yn swyddogol yn Brydeinwyr, ond mewn cyd-destynau swyddogol eraill (er enghraifft, ar ffurflenni gais am swyddi mae cwestiynau amrywiaeth ethnig yn cynnwys Cymru fel cenedl), maen't yn cael eu cysidro'n Gymry.

Sociologielogo.png Eginyn erthygl sydd uchod am gymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.