Neidio i'r cynnwys

Pasbort

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pasport)
Gweler hefyd: Pasbort (gwahaniaethu)
E-basbort cyfoes Siapaneaidd

Dogfen a gyhoeddir gan lywodraeth cenedlaethol yw pasbort, sy'n tystio hunaniaeth a chenedligrwydd person, er mwyn teithio'n ryngwladol. Yn yr ystyr hwn, mae elfennau'r hunaniaeth yn cynnwys enw, dyddiad geni, rhyw, a lleoliad geni. Fel rheol mae cenedligrwydd a dinasyddiaeth person yn unfath.

Nid yw pasbort yn ei hun yn rhoi'r hawl i'r deilydd deithio i mewn i wlad arall, na'r hawl i dderbyn amddiffyniad consylaidd na hawliau eraill arbennig tra dramor. Ond, mae fel rheol yn rhoi'r hawl i'r deilydd ddychwelyd i'r wlad lle cyhoeddwyd y basbort. Mae'r hawliau i dderbyn amddiffyniad consylaidd yn tarfu o gytundebau rhyngwladol rhwng gwledydd unigol, a'r hawl i ddychwelyd yn dibynnu ar gyfraith y wlad honno. Nid yw pasbort yn cynyrchioli bod gan y deilydd hawliau na chartref yn y wlad lle'i cyhoeddwyd.

Y pasbort Siapaneaidd cyntaf a gyhoeddwyd ym 1866.
Tu mewn i hen basbort gwlad Pŵyl, 1931

Cyfeirir at rhywbeth a wasanaethodd fel pasbort yn y Beibl Hebraeg. Yn Nehemiah 2:7-9, sy'n dyddio o adeg Ymerodraeth Persia, tua 450 BC, dywedir i Nehemiah, swyddog a oedd yn gwasanaethu'r Brenin Artaxerxes I o Persia, ofyn i gael teithio i Judea, a rhoddodd y brenin ganiatâd iddo ar ffurf llythyr i'r "llywodraethwyr tu hwnt i'r afon" yn gofyn iddo gael teithio'n ddiogel trwy eu tiroedd.

Yn y Galiffiaeth Islamaidd canoloesol, defnyddiwyd ffurf bara'a o pasbort, sef derbynneb am drethi a dalwyd. Dim ond dinasyddion a dalodd eu trethi zakah (ar gyfer Mwslemiaid) neu jizya (ar gyfer Dhimmiaid), a oedd yn cael eithio i wahanol ranbarthau yn y Caliphate, felly y dderbyneb bara'a oedd pasbort elfennol y teithiwr.[1]

Mae'n debyg i'r gair "pasbort" darddu o'r borth mewn muriau dinasoedd canoloesol, a oedd yn rhaid teithio trwyddynyt er mwyn teithio trwy'r diriogaeth.[2][3] Yn Ewrop yn ystod y canoloesoedd, cyhoeddwyd dogfennau ar gyfer teithwyr gan weinyddiaethau lleol, a oedd fel arfer yn cynnwys rhestr o ddinasoedd a threfi lle ganiatâwyd i'r deilydd deithio. Yn gyffredinol, nid oedd angen pasbort i deithio i borthladdoedd, gan y cysidrwyd rhain i fod yn bwyntiau masnachu agored, ond roedd teithio i'r tiroedd tu allan i'r porthladd yn galw am basbort.

Caiff Harri V, brenin Lloegr y gredyd am ddyfeisio'r gwir basbort cyntaf, fel modd o helpu ei ddinasyddion i brofi pwy oeddent dramor.[4]

Ymledaenodd y rheilffyrdd ar draws Ewrop yn ystod canol yr 19g, gan acosi i system basbort Ewropeaidd yr 19g cynnar fethu. Daeth yn anodd arofalu cyfreithiau pasbortau oherwydd cyflymder y trenau a'r nifer o deithwyr a oedd yn croesi'r ffiniau. Yr ymateb gyffredinol oedd i ymlacio anghenion pasbortau.[5] Yn ystod rhan olaf yr 19g a'r cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ar y cyfan, nid oedd angen pasbort i deithio drwy Ewrop, a roedd croesi'r ffiniau yn gyharol syml. Felly, ychydig iawn o bobl oedd yn berchen ar basbort. Ond, paraodd yr Ymerodraeth Otoman ac Ymerodraeth Rwsia i ofyn am basbort ar gyfer teithio rhyngwaldol, yn ogystal â system pasbort mewnol ar gyfer rheoli teithio o fewn eu ffiniau.

Roedd pasbortau cynnar yn cynnwys disgrifiad o'r deilydd. Dechreuwyd atodi ffotograffau yn ystod degawdau cynnar yr 20g, pan dechreuodd ffotograffiaeth ddod yn fwy eang gyffredin.

Yng ngwledydd Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd gofyn am basbort am resymau diogelwch (i gadw ysbiwyr allan) ac i reoli allfudiad dinasyddion a oedd â sgiliau defnyddiol er mwyn cadw potensial y gweithlu. Cedwyd y rheolau wedi i'r rhyfel ddod i ben, gan ddod yn ymarfer safonol, ond nid oedd heb ymryson. Bu twristiaid Prydeinig yr 1920au yn cwyno, yn enwedig am y ffortograffau a'r disgrifiadau a oedd wedi eu atodi, gan y credont ei fod yn ddad-ddyneiddio brwnt.[6]

Ym 1920, cynhaliodd Cynghrair y Cenhedloedd gynhadledd ar basbortau a tocynnau teithio trwodd. Daeth canllawiau pasbort a chynllun cyffredinol llyfryn pasbort i fod yn dilyn y cynhadled,[7] a dilynwyd gan gynhadloedd ym 1926[8] ac ym 1927.

Cynhaliodd y Cenhedloedd Unedig gynhadledd teithio ym 1963, ond ni sefydlwydd unrhyw ganllawiau pasbort fel canlyniad. Daeth safoni pasbortau i fod tua 1980, yn dilyn sefydliad yr International Civil Aviation Organisation (ICAO).

Israel

[golygu | golygu cod]

Nid yw pob gwlad yn cydnabod pasbortau dinasyddion o Israel.

Allwedd:      Israel      Gwledydd nad ydynt yn derbyn pasbortau o Israel      Gwledydd nad ydynt yn derbyn pasbortau o Israel, nac ychwaith unrhyw basbort sydd ag arni stamp neu fisa o Israel

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Daniel Frank (1995). The Jews of Medieval Islam: Community, Society, and Identity. Brill Publishers, tud. 6. ISBN 9004104046
  2. George William Lemon (1783). English etymology; or, A derivative dictionary of the English language, tud. 397URL Dywed y gall pasbort ddynodi hawl neu chaniatâd i deithio drwy porth, ond mae gweithiau cynharach yn disgrifio gwarant teithio, sef caniatâd neu drwydded i deithio drwy diroedd y tywysog, a oedd yn cael ei alw'n wreiddiol yn pass par teut.
  3.  James Donald (1867). Chambers's etymological dictionary of the English language. W. and R. Chambers. "passport, pass´pōrt, n. orig. permission to pass out of port or through the gates; a written warrant granting permission to travel."
  4. Dominic Casciani. "Analysis: The first ID cards", BBC, 25 Medi 2008.
  5.  History of Passports. Passport Canada.
  6. Michael Marrus (1985). The Unwanted: European Refugees in the Twentieth Century. Gwasg Prifysgol Rhydychen, tud. 92
  7.  League of Nations 'International' or 'Standard' passport design.
  8.  International Conferences - League of Nations Archives. Center for the Study of Global Change (2002).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: