Yr Oesoedd Canol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Canoloesoedd)

Cyfnod hanesyddol sy'n ymestyn yn fras o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig ar ddiwedd y 4g i gyfnod y Dadeni a chychwyn y Diwygiad Protestannaidd (1515) yw'r Oesoedd Canol (neu'r Oesau Canol/Canol Oesoedd). Fe'i rhagfleinir yn hanesyddiaeth draddodiadol Ewrop gan y cyfnod Clasurol (Gwareiddiad Rhufain a Groeg yr Henfyd) ac fe'i olynir gan y Dadeni Dysg a'r Cyfnod Diweddar, sy'n parhau hyd heddiw.

Ewrop a'r Môr Canoldir yn 1190

Yn hanes Ewrop, gellir ei rannu'n dri is-gyfnod, sef:

Yn naturiol mae hyd y cyfnodau hyn yn amrywio cryn dipyn o wlad i wlad. Defnyddir y term i ddisgrifio cyfnodau cyffelyb yn hanes gwledydd eraill hefyd, yn arbennig yn achos gwledydd Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.

Ar ôl cwymp Ymerodraeth Rhufain yr oedd hi'n gyfnod ansefydlog iawn yn Ewrop. Roedd pobl o sawl rhan o'r byd yn symud trwy'r cyfandir ac felly roedd y gymdeithas yn newid. Ar wahân i'r anhrefn ar ôl i'r Mongoliaid ddod i Ewrop, roedd y sefyllfa yn gwella ar ôl 1000.

Roedd yr Oesoedd Canol yn gyfnod o afiechydon mawr hefyd, gyda'r Pla Du yn lladd tuag 1/3 o boblogaeth Ewrop yn y 14g.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yr Oesoedd Canol Cynnar
Yr Oesoedd Canol Uwch
Yr Oesoedd Canol Diweddar

Y Croesgadau[golygu | golygu cod]

Prif erthygl: Y Croesgadau.
Gwarchae Antioch 1098, yn ystod y Groesgad Gyntaf.

Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd Cristnogol gorllewin Ewrop) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslemiaid oedd y Croesgadau, a hynny rhwng 1095 a diwedd y 13g. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes. Roedd croesgadu yn digwydd yn nwyrain Ewrop hefyd, yn erbyn "paganiaid" y Baltig.

Ymladdwyd y Croesgadau yn y Lefant yn bennaf, yn enwedig ym Mhalesteina a Syria ond hefyd yn yr Aifft ac Asia Leiaf. Nid y Mwslemiaid yn unig a ddioddefodd. Creuwyd cryn anhrefn yn yr Ymerodraeth Fysantaidd a gyfranodd yn y pen draw at gwymp yr ymerodraeth Gristnogol honno. Pan gyrhaeddwyd Caersalem bu cyflafan erchyll ar Iddewon y ddinas a lladdwyd miloedd o bobl diniwed gan y milwyr buddugoliaethus.

Ar yr ochr bositif, agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau o weithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y Dadeni. Cyfoethogwyd Ewrop gan mathemateg y Mwslemiaid yn ogystal, yn arbennig ym maes algebra (oedd yn ddiarth i Ewropeiaid cyn hynny).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: