Iola Wyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Newyddiadurwraig a darlledwraig oedd Iola Wyn hyd at 2012. Bu'n cyflwyno'r rhaglen Ffermio ar S4C rhwng 2005 a 2011. Fe'i magwyd yn Bow Street ger Aberystwyth. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Rhydypennau ac yna Ysgol Gyfun Penweddig. Mae'n briod gyda Iwan ac yn fam i ddau o blant.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl gadael y Brifysgol cafodd swydd yn Adran Gyflwyno BBC Radio Cymru, cyn symud i'r Adran Newyddion lle bu'n ohebydd ar BBC Radio Cymru a Newyddion Teledu BBC Cymru ar S4C am gyfnod o 17 mlynedd.[1] Rhwng mis Hydref 2012 a Thachwedd 2013 bu'n cyflwyno rhaglen radio "Rhaglen Iola Wyn".[2] Mae Iola bellach yn berchen ar fusnes llety hunan-ddarpar yn Sanclêr.[3] Mae hefyd yn Gydlynydd Cymdeithas Cerdd Dafod Barddas a Chyoeddiadau Barddas ers Hydref 2016.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Now & Then: Iola Wyn". Wales Online. Cyrchwyd 1 Chwefror 2015.
  2. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/128475-iola-wyn-yn-rhoir-gorau-iw-rhaglen Gwefan BBC Cymru; adalwyd 04 Chwefror 2014.
  3. Iola Wyn. "Iola Wyn". LinkedIn. Cyrchwyd 1 Chwefror 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]