Newyddion (S4C)

Oddi ar Wicipedia
Newyddion
Genre Newyddion
Cyflwynwyd gan Bethan Rhys Roberts,
Rhodri Llywelyn
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
BBC Cymru
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 720x576 anamorphic 16:9

Rhaglen deledu ar S4C yw Newyddion, sy'n darlledu newyddion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn yr iaith Gymraeg. Caiff y rhaglen ei gynhyrchu gan BBC Cymru, a caiff ei ddarlledu fel rheol rhwng 19.30 a 21.00 yn ystod yr wythnos, gyda bwletinau byrrach ar hap ar brynhawn Sadwrn a Sul.

Dechreuwyd darlledu bwletinau ychwanegol yn ystod yr wythnos yn 2009. Y patrwm arferol o Fawrth 2013 ymlaen oedd bwletin 5 munud o hyd am 13:00, 14:55 a 18:30.

Fe wnaeth Dewi Llwyd adael y rhaglen ym mis Rhagfyr 2012 ar ôl bron 30 mlynedd gyda thîm Newyddion.[1]

Ym mis Mawrth 2013 fe wnaeth S4C newidiadau sylweddol i'w amserlen gan symud y brif rhaglen newyddion i 9 o'r gloch y nos[2] gyda dau gyflwynydd parhaol Rhun ap Iorwerth a Bethan Rhys Roberts. Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth sefyll llawr ym Mehefin 2013 er mwyn ceisio cael ei enwebu fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn.[3]. Yn ddiweddarach daeth Rhodri Llywelyn fel cyflwynydd parhaol.

Ar 24 Chwefror 2020 symudodd y rhaglen nôl i slot 19:30 gyda bwletin 5 munud am 20:55.[4]

Gwasanaeth 'Newyddion S4C' ar-lein[golygu | golygu cod]

Ar 6 Ebrill 2021 lansiwyd gwasanaeth ar-lein Newyddion S4C gan S4C. Mae'r ddarpariaeth newyddion yma dim ond ar y cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook) ac yn cynnwys eitemau gan wasanaeth newyddion y BBC ond hefyd darparwyr eraill megis Golwg360 ac ITV Cymru Wales ac mae'n annibynnol o olygyddiaeth y BBC a rhaglen Newyddion S4C.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. S4C yn diolch i Dewi Llwyd
  2. Newyddion 9 i ddod â’r stori’n llawn i wylwyr S4C
  3. Rhun ap Iorwerth am sefyll ym Môn
  4.  Amserlen newydd S4C - Gwneud y dewis yn hawdd i chi. S4C (17 Chwefror 2020).
  5. "S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol newydd". Cymru Fyw BBC Cymru. 6 Ebrill 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato