Bethan Rhys Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bethan Rhys Roberts
Ganwyd Bangor Edit this on Wikidata
Man preswyl Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwraig a chyflwynydd yw Bethan Rhys Roberts. Cafodd ei geni ym Mangor.[1]

Fe astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg yn y brifysgol ac fe aeth ymlaen i astudio newyddiaduraeth print ac Ewropeaidd yng Nghaerdydd a Paris [2]. Fe ymunodd a'r BBC yn 1992, gan ohebu yn bennaf ar storïau tramor o'r dwyrain canol, Iwgoslafia a Swdan. Yn 1997 fe ddaeth hi'n ohebydd gwleidyddol i BBC Cymru a rhwng 2000 a 2006 roedd hi'n cyflwyno rhaglenni newyddion a gwleidyddol ar y BBC World Service a World TV.[3]

Fe symudodd hi a'i theulu yn ôl i Gaerdydd yn 2006 [2] pan ddechreuodd gyflwyno Good Morning Wales ar Radio Wales.

Roedd hi'n cyd-gyflwyno'r rhaglen wleidyddol wythnosol CF99 gyda Vaughan Roderick [4]. Ers 2013 hi yw prif gyflwynydd rhaglen Newyddion ac Y Sgwrs - y rhaglen a ddisodlodd CF99.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Bethan Rhys Roberts (10 Rhagfyr 2013). Proffil Twitter Bethan Rhys Roberts. Twitter. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.
  2. 2.0 2.1  BBC (10 Rhagfyr 2013). Good Morning Wales. BBC. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.
  3.  Bethan Rhys Roberts (10 Rhagfyr 2013). Proffil LinkedIn. LinkedIn. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.
  4.  S4C (10 Rhagfyr 2013). CF99. S4C. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]