Dewi Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Dewi Llwyd
Dewi Llwyd.jpg
GanwydDewi Llwyd Williams Edit this on Wikidata
1954 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu Cymreig yw Dewi Llwyd (ganwyd 1954).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dewi Llwyd Williams ym Mangor yn 1954. Roedd ei dad, y Parchedig Ifor Ll. Williams o Gwm Rhymni yn wreiddiol, yn weinidog gyda'r bedyddwyr ac yn gyn-löwr. Roedd ei fam Mary yn athrawes o Ddyffryn Conwy a briododd Ifor yn 1952. Magwyd Dewi yn Neiniolen a Threforys a setlodd y teulu yn y mans ar Ffordd Deiniol, Bangor cyn ei fod yn chwe mlwydd oed.[1] Mynychodd Ysgol Gynradd St. Paul ac Ysgol Friars yn y dref. Aeth ymlaen i astudio mewn prifysgol yng Nghaerdydd, Llundain ac yn ddiweddarach yn Washington D.C. gyda cyfnodau mewn colegau yn Ffrainc a Sbaen hefyd. [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fe ymunodd a'r BBC o ddiwedd 1979 fel gohebydd seneddol[3] ac fe roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar raglen Newyddion S4C ers y cychwyn.

Cyflwynodd y rhaglen drafodaeth wleidyddol Pawb a'i Farn ar S4C rhwng 1998 a 2019. Cyflwynodd ei sioe olaf ar 2 Tachwedd 2019 gan ddweud ei fod yn "teimlo bod fy nghyfnod i ar y rhaglen wedi dod i ben ac mae'n bryd trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf".[4]

Ar ddiwedd 2012 gadawodd prif raglen newyddion S4C ac fe olynodd Gareth Glyn fel prif gyflwynydd y Post Prynhawn ar Radio Cymru.[5] Cyflwynodd ei rifyn olaf o'r Post Prynhawn ar 9 Hydref 2019.[6] Hefyd ar y radio roedd yn cyflwyno'r rhaglen Dewi Llwyd ar fore Sul a oedd yn cynnwys "adolygiadau o'r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol". Cychwynodd y rhaglen ar ddechrau 2008 a chyhoeddodd Dewi y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen ar ddiwedd 2021.[7]

Mae hefyd yn cyflwyno y rhaglen radio yn holi gwleidyddion, Hawl i Holi.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Nia. Wedi priodi roedd y ddau yn byw yng Nghaerdydd ac am gyfnod roedd Dewi yn gweithio yn Llundain fel gohebydd seneddol. Yn Chwefror 1983, symudodd y teulu i fyw yn ardal y Garth ym Mangor.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]