Ffermio (rhaglen deledu)

Oddi ar Wicipedia
Ffermio
Genre Rhaglen amaethyddol
Serennu Alun Elidyr
Daloni Metcalfe
Meinir Jones
Terwyn Davies (achlysurol)
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu yw Ffermio sy'n cael ei darlledu ar S4C bob nos Lun am 8.25pm.

Lansiwyd y gyfres yn 1997 gyda'r cyflwynwyr Sulwyn Thomas, Gerallt Pennant, Rachael Garside a Haf Meredydd wrth y llyw.

Ffermio yw'r unig gyfres deledu ym Mhrydain sy'n delio'n benodol â materion amaethyddol.

Ail-lansio 2005[golygu | golygu cod]

Yn 2005, ail-lansiwyd y gyfres gyda chyflwynwyr newydd a brand newydd. Roedd yr ail-lansiad yn cynnwys y rhaglen Ffermio wythnosol ar S4C a Bwletin newyddion a thywydd ddwy waith yr wythnos ar S4C Digidol. Y cyflwynwyr newydd oedd Iola Wyn, Daloni Metcalfe, Alun Elidyr a Mererid Wigley. Mae'r gyfres yn cyflwyno gwybodaeth fanwl ar y byd amaethyddol, yn ogystal â phynciau o ddiddordeb ehangach.

Cyflwynwyr Ffermio 1997 - 2004

Mae Ffermio'n parhau i ddarparu fforwm cyfoes ar gyfer ffermwyr a materion amaeth ac i gwestiynu gwleidyddion ac arweinwyr yr undebau ynglŷn â newidiadau sy'n effeithio ar y diwydiant. Fodd bynnag, mae hefyd yn trin a thrafod pynciau gwledig mewn ffordd sy'n apelio at y gynulleidfa drefol a gwledig gyffredinol, sy'n ymddiddori ym mywyd cefn gwlad.

Bu'r Bwletin Ffermio yn cynnwys manylion cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth a phrisiau'r farchnad er enghraifft, oedd yn caniatáu eitemau hirach yn y rhaglenni hanner-awr ar bynciau o ddiddordeb ehangach fel bwyd organig, trafnidiaeth, iechyd a chartrefi mewn ardaloedd gwledig a phortreadau o gymeriadau cefn gwlad o bob oed a chefndir. Mererid Wigley oedd prif gyflwynydd y rhaglen hon, tan Awst 2008. Ymunodd y darlledwr Terwyn Davies â'r rhaglen fel gohebydd yn Awst 2008, gan ddod yn brif gyflwynydd y rhaglen yn Ionawr 2009 tan ddiwedd y gyfres ym Mai 2009.

Cyflwynwyr Ffermio 2005 - 2011

Ail-lansio 2011[golygu | golygu cod]

Yn Ionawr 2011, ail-lansiwyd y gyfres eto gydag ymadawiad Iola Wyn a Mererid Wigley fel cyflwynwyr. Ar 24 Ionawr 2011 gwnaeth Meinir Jones ei hymddangosiad cyntaf ar y gyfres fel cyflwynydd newydd y rhaglen. Daeth i'r amlwg hefyd y byddai'r darlledwr Terwyn Davies yn ymuno â'r gyfres yn ystod cyfnod mamolaeth Daloni Metcalfe yn Chwefror 2011.

Cynhyrchir Ffermio ar gyfer S4C gan gwmni teledu annibynnol Telesgôp.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]