Telesgôp

Oddi ar Wicipedia
Logo cwmni Teledu Telesgôp
Am y ddyfais gweld pell-yn-agos, gweler Telesgop.

Cwmni cynhyrchu annibynnol yw Telesgôp a sefydlwyd yn 1993 gan y ddarlledwraig Elin Rhys, er mwyn medru canolbwyntio ar gynhyrchu rhaglenni dogfen yn benodol, rhaglenni gwyddoniaeth a rhaglenni gwledig.

Y prosiectau cyntaf i'r cwmni gynhyrchu oedd cyfres am y sêr - Galactica, a chyfres o ddramau ‘murder-mystery’ - Dim Cliw.

Ar hyd y blynyddoedd, mae'r cwmni wedi cynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer amryw o ddarlledwyr, ac ar hyn o bryd yn cynhyrchu'r rhaglenni Ffermio, Bro a Sgota gyda Julian Lewis Jones i S4C, a rhaglen radio Richard Rees i BBC Radio Cymru.

Lleolir swyddfa'r cwmni bellach yn y Glannau, SA1, Abertawe.

Rhaglenni[golygu | golygu cod]