Elin Rhys
Elin Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 1956 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Priod | Richard Rees |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Darlledwraig, gwyddonydd a phennaeth cwmni yw Elin Rhys (ganed 23 Medi 1956, Sir Benfro), sydd fwyaf enwog efallai am gyflwyno'r rhaglen deledu i ddysgwyr Now You're Talking. Ar hyn o bryd hi yw Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni cynhyrchu annibynnol Teledu Telesgôp.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Graddiodd Elin Rhys o goleg Prifysgol Abertawe mewn Biocemeg yn 1978, a bu'n gweithio fel gwyddonydd yr amgylchfyd gyda Dŵr Cymru am bum mlynedd cyn dechrau gyrfa fel darlledwraig yn 1984 gan ymuno â HTV fel newyddiadurwraig ar raglenni gwyddonol.
Parhaodd i weithio gyda HTV am 5 mlynedd, yn paratoi eitemau gwyddoniaeth, iechyd ac amgylcheddol ar gyfer S4C a HTV. Yn 1990 aeth Elin ymlaen i weithio fel cyflwynydd llawrydd i adran addysg y BBC yn Llundain am ddwy flynedd. Yno, fe weithiodd ar nifer o gyfresi gwyddonol, gan gynnwys cyfres o ugain, Search Out Science.
Hefyd rhwng 1988 a 1993 cyflwynodd 5 cyfres o O Fan I Fan, sef cyfres gêm antur yn yr awyr agored; cyfres hwyl wyddonol i Channel 4 - The Nature Of Science; cyfres i’r BBC yn edrych ar addysg i oedolion - The Education Programme, a chyfres fyw tafod yn y boch yn edrych ar deledu o gwmpas y byd - Llygaid Sgwâr.
Gwnaeth Elin hefyd gyflwyno 72 o raglenni wedi eu haneli at ddysgwyr Cymraeg, Now You’re Talking. Ygrifennodd a chynhyrchodd 3 cyfres ar iechyd ag addysg rhyw i blant a gafodd ei ddarlledu ar BBC2 a S4C.
O’r 23 o gyfresi y bu’n gweithio arnynt, ar radio a theledu, i 5 darlledwr, (sef S4C, BBC2, BBC Cymru, HTV a Granada) - mae pob un ond 2 gyfres wedi bod yn wyddonol neu feddygol eu naws.
Yn 1993, aeth ati i sefydlu cwmni teledu annibynnol, Teledu Telesgôp, er mwyn medru canolbwyntio ar gynhyrchu rhaglenni dogfen yn benodol, rhaglenni gwyddoniaeth a rhaglenni gwledig. Mae pencadlys y cwmni bellach yn y Glannau, SA1, Abertawe.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Elin yn briod â'r darlledwr Richard Rees, a mae ganddynt un ferch, Ffion.