Channel 4
| Enghraifft o: | gorsaf deledu, darlledwr, sianel deledu |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2 Tachwedd 1982 |
| Perchennog | Channel Four Television Corporation |
| Aelod o'r canlynol | Cynghrair Cadwraeth Ddigidol |
| Pencadlys | Llundain |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | http://www.channel4.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01w92 |
| Quora | Channel-4 |
Sianel deledu yn y Deyrnas Unedig sy'n darlledu yn Saesneg yw Channel 4.
Dechreuodd ddarlledu ar y 2il Tachwedd 1982, dydd ar ôl y sianel Gymraeg S4C. Mae Channel 4 yn darlledu trwy Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cyn datblygu teledu digidol roedd sianel analog S4C yn disodli'r sianel yng Nghymru. Ers dechrau teledu digidol yn 1998 cyflwynwyd Channel 4 yng Nghymru yn ogystal ag S4C digidol. Yn ogystal mae Channel 4 HD ar gael yng Nghymru ar Freeview gan ddisodli y gwasanaeth S4C Clirlun a gaewyd yn 2012.
Er i'r sianel gael ei hariannu'n llwyr gan hysbysebion, ar ddiwedd y dydd mae'r sianel yn eiddo cyhoeddus. Yn wreiddiol roedd yn rhan o'r Awdurdod Darlledu Annibynnol (ADA) ond bellach mae'r sianel yn eiddo i Gorfforaeth Deledu Sianel Pedwar, corff cyhoeddus a sefydlwyd ym 1990 ar gyfer y pwrpas hwn. Daeth yn weithredol ym 1993, ar ôl i'r ADA gael ei ddiddymu.
Dechreuodd S4C drwy ddangos cymysgedd o raglenni Cymraeg brodorol yn yr oriau brig a rhaglenni Saesneg Channel 4 am weddill y dydd. Ers 2010 daeth sianel ddwyieithog, analog S4C i ben gan adael fersiwn digidol S4C sy'n darlledu trwy'r Gymraeg yn unig.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol