Sulwyn Thomas

Oddi ar Wicipedia
Sulwyn Thomas
Ganwyd13 Mehefin 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Darlledwr yw Sulwyn Thomas (ganwyd 13 Mehefin 1943), sydd fwyaf enwog am gyflwyno'r rhaglen radio Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Thomas yng Nghaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin ac ar ôl gadael ysgol fe'i hyfforddwyd fel newyddiadurwr yn swyddfa'r Evening Post yn Abertawe. Ymunodd â chwmni teledu TWW fel gohebydd yng ngorllewin Cymru i raglen Y Dydd, gan barhau gyda'r un gwaith pan gymerodd HTV le Teledu Cymru.

Yn 1977 ymunodd Sulwyn â'r BBC fel un o gyflwynwyr y rhaglen Heddiw a throi wedyn i fyd radio gan lywio Stondin Sulwyn - ddaeth yn un o raglenni mwyaf poblogaidd BBC Radio Cymru yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Bu'r Stondin yn llwyfan i gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i drafod pynciau'r dydd tan ddiwedd y rhaglen yn 2002.

Parhaodd hefyd fel cyflwynydd teledu, gan gyflwyno Y Sioe Fach, rhaglenni o Sioe Llanelwedd, a'r rhaglen Ffermio rhwng 1997 a 2004. Roedd yn un o sefydlwyr gwasanaeth Radio Glangwili yn 1972 a Papur Llafar y Deillion.

Mae'n ddiacon yng nghapel y Priordy, Caerfyrddin, ac yn aelod o'r cwmni drama a gyflwynodd Dan y Wenallt am y tro cyntaf. Bu ef a'i wraig Glenys ar un adeg yn arwain aelwyd yr Urdd yng Nghaerfyrddin, aelwyd a fu'n grud i o leiaf un grŵp pop Cymraeg, Galwad y Mynydd,

Trwy ei waith fel gohebydd magodd gysylltiadau clos gydag arweinwyr y frwydr i achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach rhag y bygythiad i'w boddi. Lluniodd raglenni am y frwydr ac roedd yn rhan o'r pwyllgor a drefnodd ddathliadau 50 mlynedd y fuddugoliaeth yn 2013.

Cafodd ei urddo i'r wisg wen yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2003.

Ym mis Rhagfyr 2008, cyhoeddodd Sulwyn ei hunangofiant Sulwyn fel rhan o Gyfres y Cewri a gyhoeddir gan Wasg Gwynedd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig Glenys, a mae ganddynt ddau o blant - Owain a Branwen Thomas, a fu'n ohebydd a chyflwynwyr ar Y Byd ar Bedwar a chynhyrchydd gyda Hacio (rhaglen deledu).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]