Y Dydd (rhaglen newyddion)
Rhaglen newyddion Cymraeg oedd Y Dydd a ddarlledwyd ar deledu annibynnol rhwng 1964 ac 1982.
Hanes darlledu
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd wasanaeth TWW ar rwydwaith ITV ym mis Ionawr 1958 ac roedd yr amserlen yn cynnwys rhaglen newyddion wythnosol o'r enw Newyddion y dydd. Bwletin o ryw 5 munud oedd y rhaglen i ddechrau wedi ei ddarllen gan Eirwen Davies. Hwn oedd y rhaglen newyddion cyntaf ar deledu yn Gymraeg. Darlledwyd y rhaglen o stiwdios TWW ym Mhontcanna.
Erbyn 1960 roedd y bwletin wedi ymestyn i 20 munud.[1] Wedi methiant Teledu Cymru ar ddechrau 1964, daeth TWW yn wasanaeth i Gymru gyfan. Yn y de, roedd y trosglwyddydd yn gwasanaethu de-orllewin Lloegr a de Cymru felly roedd y rhaglenni newyddion Cymraeg a Saesneg yn plethu gyda'i gilydd.
Erbyn 1968 trosglwyddwyd masnachfraint Sianel 3 i deledu Harlech (HTV) ac ymestynwyd Y Dydd i 30 munud, wedi ei ddilyn gan raglen 10 munud o newyddion yn Saesneg.[2]
Daeth y rhaglen i ben gyda sefydlu S4C pan enillodd BBC Cymru y cytundeb i ddarparu gwasanaeth newyddion y sianel newydd. Darlledwyd y rhaglen olaf ar 29 Hydref 1982.[3]
Cynhyrchu a chyflwyno
[golygu | golygu cod]Bu'r rhaglen yn feithrinfa i nifer fawr o newyddiadurwyr, cyflwynwyr a chynhyrchwyr. Bu Eirwen Davies yn gyflwynydd a gohebydd newyddion ar TWW ac HTV rhwng 1958 a chanol yr 1970au lle'r oedd yn cyd-gyflwyno gyda Vaughan Hughes, Huw Llywelyn Davies ac Elinor Jones. Daeth Gwyn Llewelyn yn ohebydd ar y rhaglen yn 1964 ac yn brif gyflwynydd rhwng 1968 ac 1976. Roedd gohebwyr eraill yn cynnwys Tweli Griffiths a Sulwyn Thomas. Gweithiodd Jenny Ogwen fel ysgrifenyddes ar y rhaglen.
Roedd Gwilym Owen yn gynhyrchydd y rhaglen yn 1970. Roedd rhai o olygyddion y rhaglen yn cynnwys Eleanor Mathias, Ioan Roberts, Owen Roberts a Deryk Williams.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Teledu yng ngwlad y gân - Newyddion y dydd tan TWW. TWW. Adalwyd ar 14 Hydref 2020.
- ↑ (Saesneg) Tonight’s Harlech Wales… in 1968. Transdiffusion Broadcasting System (30 Awst 2016). Adalwyd ar 14 Hydref 2020.
- ↑ Elain Price (2016). Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9781783168880
- ↑ 50 Mlynedd ers Y Dydd , BBC Cymru Fyw, 9 Medi 2014. Cyrchwyd ar 14 Hydref 2020.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Teitlau agoriadol Y Dydd tua 1981 ar YouTube