Huw Llywelyn Davies
| Huw Llywelyn Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 19 Chwefror 1945 Merthyr Tudful |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd chwaraeon, cyflwynydd teledu |
| Tad | Eic Davies |
| Plant | Rhodri Llywelyn |
| llofnod | |
Darlledwr a chyn-athro o Gymro yw Huw Llywelyn Davies (ganed 19 Chwefror 1945). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylwebydd rygbi ar radio-a-theledu am dros 30 mlynedd.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Huw ym Merthyr Tudful yn fab i Beti ac Eic Davies (arloeswr wrth drafod chwaraeon yn Gymraeg ar y radio). Pan oedd ond 18 mis oed symudodd y teulu i Gwaun-cae-gurwen.
Aeth i Ysgol Gynradd y Waun ac Ysgol Ramadeg Pontardawe. Aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol Caerdydd lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yn ei ddyddiad coleg bu’n gapten ar y tîm rygbi am ddau dymor ac fe’i dewiswyd hefyd i dîm cyfun Colegau Prifysgol Cymru.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ei swydd cyntaf oedd Ngholeg Llanymddyfri yn olynu Carwyn James fel Pennaeth y Gymraeg ac athro chwaraeon. Roedd yno rhwng 1969 ac 1974.
Ymunodd â HTV yn 1974 fel cyflwynydd ar raglen newyddion Y Dydd o dan arweiniad Gwilym Owen. Ymunodd â'r BBC yn 1979 gan weithio i BBC Radio Cymru i ddechrau, yn cyflwyno rhaglen sgwrsio yn y boreau, rhaglenni i ddysgwyr a chyfresi o raglenni panel ysgafn fel Dros Ben Llestri a Dyfal Donc.
Wedi hynny dechreuodd sylwebu ar gemau rygbi i'r Adran Chwaraeon. Wedi dyfodiad S4C daeth yn enwog fel prif sylwebydd rygbi yn Gymraeg a Saesneg gan ffurfio partneriaeth chwedlonol gyda Ray Gravell. Enillodd Dlws Prif Ohebydd Chwaraeon Cymru gan y Cyngor Chwaraeon ym 1995.
Am dros 33 mlynedd roedd yn un o brif gyflwynwyr rhaglenni teledu y BBC o'r Eisteddfod Genedlaethol, gyda chyfnodau hefyd yn cyflwyno o Steddfodau’r Urdd a Llangollen. Bu hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen grefyddol Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Cyflwynodd sioe sgyrsio ei hun o'r enw Holi Hwn a’r Llall.[1]
Fe ymddeolodd fel sylwebydd ar gemau rhyngwladol yn Mawrth 2014.[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod a Carol ac yn byw ym Mhentyrch . Mae ganddynt un mab – Rhodri Llywelyn a aeth yn newyddiadurwr a darlledwr.[1]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Am ei gyfraniad i’r byd darlledu a’r Gymraeg cafodd ei Urddo â’r Wisg Werdd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, 1987 ac yna’i ddyrchafu i’r Wisg Wen yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1994.
Cafodd gynnig MBE ar un adeg, ond ni dderbyniodd yr anrhydedd gan y teimlai y byddai’n mynd yn erbyn holl egwyddorion ei fagwraeth a’i ddaliadau fel Cenedlaetholwr o Gymro.
Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd 2007 a Gradd er Anrhydedd - Doethur mewn Llenyddiaeth- gan Brifysgol Abertawe yn 2019
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "Huw Llywelyn Davies - Prifysgol Abertawe". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2026-02-14.
- ↑ "Tu ôl i'r meic". BBC Cymru Fyw. 2014-12-26. Cyrchwyd 2016-12-01.