Vaughan Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vaughan Hughes
Ganwyd 16 Tachwedd 1947 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr, cyflwynwydd a chynhyrchydd yw Vaughan Hughes (ganwyd 16 Tachwedd 1947). Ganwyd ar Ynys Môn a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n newyddiadurwr yng Ngwynedd cyn mynd i fyd cynhyrchu a chyflwyno gyda HTV. Roedd yn un o ohebwyr y rhaglen newyddion Y Dydd. Yn yr 1980au roedd yn cyflwyno y rhaglen materion cyfoes Y Byd Yn Ei Le. Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen sgwrsio O Vaughan i Fynwy rhwng 1987 ac 1991. Roedd yn gyd-sylfaenydd y cwmni teledu Ffilmiau'r Bont a bellach mae'n gyd-olygu'r cylchgrawn Barn.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n gynghorydd Plaid Cymru dros Ward Lligwy, Sir Fôn.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.