Ioan Roberts

Oddi ar Wicipedia
Ioan Roberts
FfugenwIo Mo Edit this on Wikidata
Ganwyd22 Tachwedd 1941 Edit this on Wikidata
Rhoshirwaun Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
Porthdinllaen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, golygydd, peiriannydd sifil Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr, awdur a golygydd oedd Ioan Roberts (Tachwedd 194129 Rhagfyr 2019).

Ganwyd yn Rhoshirwaun, Llŷn ac fe'i hyfforddwyd fel peiriannydd sifil.[1]

Cychwynnodd ei yrfa newyddiadurol gyda phapur newydd Y Cymro gan ddod yn brif ohebydd. Bu'n olygydd gyda rhaglen newyddion Y Dydd ar HTV, cyn dod yn olygydd newyddion BBC Radio Cymru, ac yn gynhyrchydd nifer o raglenni S4C. Roedd yn gyd-gynhyrchydd cyfres Hel Straeon gyda Wil Owen.[2]

Yn dilyn ei yrfa ddarlledu, daeth yn olygydd ac awdur llyfrau. Ysgrifennodd a golygodd nifer o lyfrau ffeithiol a bywgraffiadau gan gynnwys casgliadau o luniau'r ffotograffydd Geoff Charles a chofiant i'r ffotonewyddiadurwr rhyngwladol, Philip Jones Griffiths. Golygodd lyfr ar hanes y gyfres deledu C'mon Midffîld!.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ag Alwena ac yn byw ym Mhwllheli[3]. Roedd ganddynt ddau o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofio'r newyddiadurwr, awdur a golygydd Ioan Roberts , BBC Cymru, 30 Rhagfyr 2019.
  2. Marw’r cyn-newyddiadurwr a golygydd, Ioan Roberts, yn 78 , Golwg360, 30 Rhagfyr 2019.
  3.  Ioan Roberts. Y Lolfa. Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2019.