Rhoshirwaun

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhoshirwaun
Aberdaron - Capel Saron, Rhoshirwaun.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref bychan ym mhen Llŷn, Gwynedd yw Rhoshirwaun ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar y ffordd B4413 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberdaron a thua 9 milltir i'r de-orllewin o Nefyn.

Dwy filltir i'r dwyrain cyfyd Mynydd Rhiw. Sefydlwyd Capel Saron yn y pentref gan y Methodistiaid Calfinaidd; fe drowyd yn dŷ yn 2000.

Ceir Ysgol Llidiardau ger y pentref, ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg sydd yn nhalgylch Ysgol Botwnnog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Pobl o Roshirwaun[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014