Hel Straeon
Gwedd
| Hel Straeon | |
|---|---|
| Genre | Cylchgrawn |
| Cyflwynwyd gan | Gwyn Llewelyn, Catrin Beard, Lyn Ebenezer |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 30 munud |
| Cwmnïau cynhyrchu |
Teledu'r Tir Glas/Uned Hel Straeon/Seiont |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
| Rhediad cyntaf yn | 1986 – 1997 |
Rhaglen deledu gylchgrawn ar S4C oedd Hel Straeon. Roedd pob rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o hanesion diddorol am bobol a llefydd o gwmpas Cymru. Darlledwyd y gyfres am dros ddeng mlynedd rhwng 1986 ac 1997.
Cynhyrchwyd y gyfres yn wreiddiol gan Teledu'r Tir Glas a Ffilmiau'r Nant, ac yn ddiweddarach gan Uned Hel Straeon ac yna chwmni Seiont.[1]