Teledu'r Tir Glas
Gwedd
Enghraifft o: | cwmni cynhyrchu teledu |
---|---|
Daeth i ben | 12 Chwefror 2013 |
Dechrau/Sefydlu | 1 Rhagfyr 1981 |
Sylfaenydd | Huw Jones |
Cwmni teledu annibynnol Cymreig oedd Teledu'r Tir Glas, a gydsefydlwyd gan Huw Jones, sylfaenydd cwmni recordiau Sain, a chyn-gadeirydd S4C.
Ffurfiwyd y cwmni ar 1 Rhagfyr 1981 gyda swyddfa yng Nghaernarfon.[1] Daeth cyfnod cynhyrchu rhaglenni y cwmni i ben yn 1993.
Roedd rhai o gynhyrchiadau'r cwmni yn cynnwys Cân i Gymru, Noson Lawen, Hufen a Moch Bach, Helfa Drysor, Plu Chwithig, Nyth Cacwn, Ma' Ifan 'Ma, Bacha Hi O'Ma, Taro Tant, Pen a Chynffon, Tony ac Aloma, Eirlys, Penblwydd Hapus, Traed Moch, Treialon Cwn Defaid, Anturiaethau Dic Preifat a Iasau. Yn wreiddiol roedd y cwmni hefyd yn cynhyrchu'r rhaglen gylchgrawn Hel Straeon ar y cyd gyda Ffilmiau'r Nant.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 26 Medi 2020.