Huw Jones (darlledwr)
| Huw Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | David Huw Jones 5 Mai 1948 Manceinion |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr, person busnes, darlledwr |
| Swydd | prif weithredwr |
| Cysylltir gyda | S4C, Cwmni Recordiau Sain |
Canwr, darlledwr a dyn busnes o Gymru yw Huw Jones (ganwyd 5 Mai 1948). Daeth yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth Cymru yn y 1960au ac am ei gân brotest Dŵr oedd yn sôn am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn. Cyd-sefydlodd nifer o gwmnïau cyfryngol Cymraeg yn cynnwys Sain, Teledu'r Tir Glas a Barcud. Bu'n brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 ac yn gadeirydd y sianel rhwng 2011 a 2019.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd David Huw Jones ym Manceinion. Symudodd y teulu i Gaerdydd lle addysgwyd Huw yn Ysgol Bryntaf ac Ysgol Uwchradd Y Bechgyn. Ar ôl gadael ysgol astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.[1]
Cychwynnodd ganu yn gyhoeddus yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac yna yng nghlybiau canu gwerin yng Nghaerdydd. Roedd yn perfformio'n aml gyda cyfoedion fel Heather Jones, Geraint Jarman, Huw Jenkins ac Eluned Evans.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1968 arwyddodd i Welsh Teldisc a rhyddhau'r EP Cymru'r Canu Pop a flwyddyn yn ddiweddarach y sengl "Y Ffoadur". Nid oedd Huw yn hapus gyda chyfleusterau recordio cyntefig Welsh Teldisc ac felly ym 1969 ffurfio Cwmni Recordiau Sain gyda gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Daeth yn reolwr-gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981.[2]
Cyd-sefydlodd un o'r cwmnïau teledu annibynnol cyntaf, Teledu'r Tir Glas a'r cwmni adnoddau Barcud, ac roedd yn Gadeirydd y cwmni hwnnw rhwng 1981-1993. Mae nawr yn Gadeirydd Portmeirion Cyf., yn is-Gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ac yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.[3]
Erbyn y 1970au cynnar roedd yn cyflwyno y rhaglen bop wythnosol ar BBC Cymru, Disc a Dawn.
Roedd yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 a daeth yn gadeirydd Awdurdod S4C ym Mehefin 2011.[4] Ymddeolodd o'r swydd yn Medi 2019.[5]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Dwy flynedd ar ôl sefydlu Sain, penderfynodd Huw a'i wraig symud i'r gogledd i fagu teulu. Symudodd i Landwrog gan rhentu bwthyn yno i ddechrau.[2]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Senglau/EP
[golygu | golygu cod]
| Teitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn | Clip sain |
|---|---|---|---|---|---|
| Cymru'r Canu Pop | EP 7" | Teldisc- Pops y Cymro | PYC 5436 | 1968 | |
| Y Ffoadur / Dewch I Ganu (La, La, La) | Sengl 7" | Welsh Teldisc | WD 912 | 1969 | |
| Dŵr / Fy Ngwlad Fy Hun | Sengl 7" | Sain | SAIN 1 | 1969 | |
| Paid Digalonni / Ffoi | Sengl 7" | Sain | SAIN 3 | 1970 | |
| Gwylliaid Cochion Mawddwy | EP 7" | Sain | SAIN 9 | 1970 | |
| Daw Dydd | EP 7" | Sain | SAIN 21 | 1971 | |
| Dwi Isio Bod Yn Sais | EP 7" | Sain | SAIN 33E | 1973 |
Albymau
[golygu | golygu cod]| Teitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn |
|---|---|---|---|---|
| Adlais | Albwm, LP | Sain | SAIN 1074H | 1976 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gary Melville. BBC - Huw Jones. BBC Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2020.
- ↑ 2.0 2.1 Huw Jones – Gwestai Penblwydd. BBC Radio Cymru (29 Ebrill 2018). Adalwyd ar 18 Mehefin 2020.
- ↑ Awdurdod S4C. S4C. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
- ↑ Cadarnhau Huw Jones fel cadeirydd , BBC Cymru, 6 Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 25 Mawrth 2017.
- ↑ Hugh Hesketh Evans yw Cadeirydd dros dro S4C , Golwg360. Cyrchwyd ar 7 Hydref 2019.
- Genedigaethau 1948
- Cantorion yr 20fed ganrif o Gymru
- Cantorion Cymraeg o Gymru
- Cyn-fyfyrwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- Darlledwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Darlledwyr Cymraeg o Gymru
- Gweithredwyr teledu o Gymru
- Pobl fusnes yr 20fed ganrif o Gymru
- Pobl fusnes yr 21ain ganrif o Gymru
- Pobl a aned ym Manceinion
- Prif weithredwyr o Gymru