Bacha Hi O'Ma
Bacha Hi O'Ma | |
---|---|
Genre | Cwis |
Cyflwynwyd gan | Alwyn Siôn |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 6 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 45 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Teledu'r Tir Glas |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 28 Medi 1991 – 3 Chwefror 1997 |
Rhaglen adloniant ar S4C oedd Bacha Hi O'Ma wedi ei gyflwyno gan Alwyn Siôn. Roedd y sioe yn paru merched a bechgyn wrth i'r naill a'r llall ateb cwestiynau, gydag un cwpl yn ennill y gystadleuaeth i fynd am bryd o fwyd rhamantaidd.[1]
Cynhyrchwyd y rhaglen gan Teledu'r Tir Glas (Antena erbyn hyn). Darlledwyd chwe chyfres rhwng 1991 a 1997.
Fformat
[golygu | golygu cod]Yn y rhan gyntaf, byddai tair merch yn cystadlu am dri dyn. Roedd y dynion wedi ei "bachu" ar drofwrdd a fyddai'n troi yn araf. Roedd yn rhaid i'r ferch ddewis dyn drwy wasgu ei seiniwr wrth i'w dewis ddod i'r golwg, a byddai'n rhaid ateb cwestiwn yn gywir er mwyn cadw ei 'bachiad'. Unwaith i'r tair merch wneud eu dewis, byddai un dyn ar ôl.
Yn dilyn hyn, byddai cwis rhwng y tair merch, ac o ateb cwestiwn yn gywir, gallai'r ferch ddewis ffeirio ei dyn hi am un o'r lleill. O gael ateb anghywir, byddai Alwyn yn cyfnewid dau ddyn o'i ddewis ef. Ar ddiwedd y cwis hwn, roedd tri phâr wedi eu dewis a byddai'r gynulleidfa stiwdio yn pleidleisio ar bwy oedden nhw'n ystyried y cwpl gorau. Byddai'r enillydd yn mynd i'r rownd derfynol.
Yn ail hanner y sioe, roedd tri dyn nawr yn cael dewis o'r trofwrdd, gyda'r merched yn eistedd mewn cadeiriau gwiail yn hongian o'r bachau, yn ogystal ag un dyn anffodus na ddewiswyd o'r rownd gyntaf. Eto, roedd yn rhaid gwasgu'r seiniwr i ddewis merch, ac ateb cwestiwn yn gywir er mwyn 'bachu'. Gallai gam-amseru gwasgu'r botwm olygu dewis y dyn gan gamgymeriad, oedd yn peri difyrrwch mawr i'r gynulleidfa. Wedi ffurfio tri phâr, byddai'r dyn olaf yn gorfod "bachu hi o 'ma".
Byddai'r cwis yn parhau rhwng y tri phâr gyda'r merched yn cael eu symud o gwmpas. Ar y diwedd, byddai pleidlais y gynulleidfa yn dewis y cwpl i fynd ymlaen i'r rownd derfynol.
Roedd y rownd derfynol yn her 'curiad calon'. Roedd y ddau bâr wedi eu clymu gyda'i gilydd ac roedd yn rhaid iddynt redeg lawr y grisiau i gyrraedd seiniwr ar y gwaelod, tra bod Alwyn yn gofyn cwestiwn. Byddai ateb cywir yn golygu gallai'r cwpl ddringo'r grisiau eto, wrth i'r cwestiynau barhau. Ar ddiwedd yr amser, y cwpl ar ben y grisiau byddai'n ennill. Roedd atebion cywir yn y rownd derfynol yn ennill arian a byddai'r pâr buddugol yn cadw'r arian ac yn cael mynd am bryd o fwyd rhamantus mewn bwyty. Byddai cyplau yn dychwelyd ar ddiwedd y gyfres gyda'r pâr buddugol yn ennill gwyliau i'r Caribî.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bacha Hi O’ma. Antena. Adalwyd ar 22 Hydref 2018.
- ↑ Bacha Hi O'Ma. UK Gameshows. Adalwyd ar 22 Hydref 2018.