Noson Lawen (rhaglen deledu)

Oddi ar Wicipedia
Noson Lawen
Genre Adloniant
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 33
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Cwmni Da
Amser rhedeg 60 munud (gyda hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 11 Tachwedd 1982
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Rhaglen adloniant yw Noson Lawen. Mae wedi cael ei darlledu ar S4C bob blwyddyn ers 1982 ac mae'n arddangos doniau cantorion, digrifwyr a chorau o flaen cynulleidfa fyw, boed mewn sgubor, stiwdio deledu neu neuadd chwaraeon. Mae nifer o bobl wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen, gan gynnwys Glan Davies.

Cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y rhifyn cyntaf ar 11 Tachwedd 1982, wythnos ar ôl lansio sianel deledu S4C. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Teledu'r Tir Glas bryd hynny. Recordiwyd y rhaglen gyntaf ar Fferm Tyddyn 'Ronnen, Llanuwchllyn, Gwynedd a'r cyflwynydd cyntaf oedd yr actor Trefor Selway. Roedd perfformiadau gan gantorion Triawd Lliw, Côr Merched Uwchllyn gydag Elin Mair Jones yn cyfeilio ar y delyn, Triawd Menlli, gyda Gwenda Williams, Einion Edwards, Plant Llanuwchllyn, o dan arweiniad Robin Glyn ac Audrey Williams.[1]

Roedd y cyfresi gwreiddiol yn adlewyrchu gwreiddiau gwledig y rhaglen, gyda'r gynulleidfa yn eistedd ar bêls gwair, gyda'r perfformwyr wedi eu gosod ar drelar fferm.

Erbyn 1996 y cynhyrchydd oedd cwmni Tonfedd (Tonfedd Eryri yn ddiweddarach) ac yna Cwmni Da.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]