Porthdinllaen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Porthdinllaen
Nefyn, Porthdinllaen - geograph.org.uk - 55540.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9429°N 4.568°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH276416 Edit this on Wikidata
Cod post LL53 Edit this on Wikidata

Mae Porthdinllaen ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Cyfeirnod OS: SH2741) yn bentre bychan, agos at Forfa Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol amdano ers 1994. Gweler oddi yno olygfeydd o'r Eifl ac Eryri. Mae'r dafarn "Tŷ Coch" yn ganolfan i'r pentre. Mae'r enw i'w ganfod gyntaf yn 1263: Portdinllaen. Porth ydy porthladd, din ydy'r gaer ar y pentir a elwir Trwyn Porth Dinllaen ac ystyr "llaen" ydy "Llŷn".

Porthdinllaen yn Ebrill 2011

Rhaid i ymwelwyr gerdded ato dros y traeth o Forfa Nefyn, neu dros dir y clwb golff ar y pentir, gan fod ceir wedi'u gwahardd.

Mae'r pentre'n hen borthladd pysgota, sydd ar y pen gorllewinol o'r bae 1.25 milltir llydan, a chyda 100 erw o angorfeydd diogel. Roedd y lle'n fwrlwm o longau sgota mor diweddar â'r 19g.[1]

Awgrymyd Porthdinllaen fel porth i longau i'r Iwerddon yn gynnar y 19ed ganrif, ond dewiswyd Caergybi yn ei le.

Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dictionary of Place-names of Wales, Gwasg Gomer