Gwasg Gwynedd
Jump to navigation
Jump to search
Mae Gwasg Gwynedd yn wasg sy'n cyhoeddi yn y Gymraeg yn unig. Fe'i sefydlwyd yn 1972 gan Alwyn Elis a Gerallt Lloyd Owen; Alwyn yw'r Cyfarwyddwr Rheoli. Mae'r awdures Bethan Gwanas yn Olygydd Creadigol i'r wasg.
Cyhoeddir 13 llyfr y flwyddyn gan y wasg, ar gyfartaledd, ac mae tua 400 o lyfrau mewn print ganddynt rwan. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddwyd ganddynt mae'r cyfres o fywgraffiadau Cyfres y Cewri.