Gerallt Lloyd Owen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gerallt Lloyd Owen
Fy Nghawl fy Hun (llyfr).jpg
Ganwyd 6 Tachwedd 1944 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Gorffennaf 2014 Edit this on Wikidata (69 oed)
Ysbyty Gwynedd Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth awdur, bardd Edit this on Wikidata

Bardd a aned yn "Nhŷ Uchaf", fferm ym mhlwyf Llandderfel Sarnau, Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw) oedd Gerallt Lloyd Owen (6 Tachwedd 194415 Gorffennaf 2014).[1][2] Roedd yn un o brif feistri'r gynghanedd ac yn feuryn ymryson barddol Radio Cymru, Talwrn y Beirdd.[3]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Gerallt oedd yr ail fab i Henry Lloyd Owen (1906-1982), amaethwr a Swyddog Pla Cyngor Sir Feirionnydd ac yna Gwynedd, a Jane Ellen (Jin, 1905-1989), athrawes a fu hefyd yn cadw siop a llythyrdy'r Sarnau wedi i'r teulu symud yno i fyw i'w hen gartref hi, "Broncaereini", yn 1945 pan benodwyd Henry i'w swydd gyda Chyngor Sir Feirionnydd.

Llwyd o'r Bryn a gyflwynodd y gynghanedd iddo, ei athro barddol cyntaf, a gallai Gerallt gyfansoddi englyn cywir yn ddeuddeg oed. Yna aeth at Ifan Rowlands y Gistfaen, Llandderfel i wella'i grefft.

Derbyniodd Gerallt ei addysg yn Ysgol Tŷ Tan Domen. Tra yn y chweched dosbarth dyrchafwyd y tad a symudodd y teulu i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i adolygu ar gyfer ei arholiadau 'lefel A', ond gwell ganddo astudio'r gynghanedd a darllen barddoniaeth ac ni chafodd y graddau angenrheidiol i fynd i'r brifysgol ac felly aeth i'r Coleg Normal, Bangor lle derbyniodd Dystysgrif Athro yn 1966.[3]

Treuliodd gyfnod o bum mlynedd fel athro: Ysgol Gynradd, Ysgol Glyn Dŵr (yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan y cenedlaetholwr brwd Trefor Morgan) ac Ysgol Gymraeg y Betws. Sefydlodd Wasg Gwynedd ym 1972. Yn 1972 hefyd y priododd ag Alwena Jones o Ddeiniolen gan fyw yn Llandwrog, a chawsant dri o blant: Mirain, Bedwyr a Nest.

Ei waith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Er i'w gyfrol gyntaf, Ugain Oed a'i Ganiadau (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei gyhoeddi ym 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi Cerddi'r Cywilydd ym 1972.[4]

Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl Cilmeri , am dranc Llywelyn ap Gruffudd, a'r gerdd Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) am yr arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969 sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,

Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn.
Ein calon gan estron ŵr,
Ein coron gan goncwerwr,
A gwerin o ffafrgarwyr
Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.

Ond mae gan ei awen agwedd bersonol hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd Trafferth mewn siop (yn y gyfrol Cilmeri) am gael gwrthod talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno, sy'n adleisio cerdd adnabyddus Dafydd ap Gwilym Trafferth mewn Tafarn.

Cyhoeddodd hunangofiant ym 1999 dan y teitl Fy Nghawl Fy Hun. Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres Talwrn y Beirdd, a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Barddas am gyfnod.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982.

Dymuniad y teulu oedd bod rhoddion er cof am Gerallt i'w gyfrannu i ymgyrch ‘Ie’ yr Alban.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasg Gwynedd gyhoeddodd ei ddwy gyfrol bwysicaf o farddoniaeth: Cerddi'r Cywilydd yn 1972 a Cilmeri a Cherddi Eraill yn 1991, a hefyd ei hunangofiant Fy Nghawl Fy Hun yn 1999. Cafwyd 4 argrafiad o Cerddi'r Cywilydd ac enillodd Cilmeri a Cherddi Eraill wobr Llyfr y Flwyddyn, 1992.

Hunangofiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Stephens, Meic (11 Awst 2014). Gerallt Lloyd Owen: Renowned Welsh poet. The Independent. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  2. (Saesneg) Gerallt Lloyd Owen obituary. The Daily Telegraph (7 Awst 2014). Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  3. 3.0 3.1 Gwefan yr Academi
  4. Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein;] adalwyd 29 Medi 2016.
  5.  Rhoddion er cof am Gerallt i ymgyrch ‘Ie’ yr Alban. Golwg360 (19 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 31 Awst 2014.