Arwisgiad Tywysog Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Caernarfon
Gwrthdystio yn erbyn arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon, Mawrth 1969

Arwisgiad Tywysog Cymru yw'r seremoni o arwisgo mab hynaf teyrn Lloegr a'r teitl Tywysog Cymru, teitl a roddir i fab hynaf y teyrn ers 1301, er i nifer yng Nghymru ymwrthod rhag ei alw'n hynny, gan deimlo i linach gwir dywysogion Cymru gael ei ddifa gan goron Lloegr.

Roedd yn arferol trefnu'r arwisgiad yn y Senedd yn Llundain. Ar un adeg roedd seremoni debyg ar gyfer Arglwyddi, ond gwnaed i ffwrdd a hyn yn 1621, wrth i'r nifer o Arglwyddi gynyddu.

Yn 1911, gwelwyd newid, pan ddaeth Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach Edward VIII, yn seremoni gyhoeddus yng Nghastell Caernarfon. Credir mai David Lloyd George oedd tu ôl i'r newid yn y trefniadau.

Cafwyd Arwisgiad arall yng Nghastell Caernarfon yn 1969, pan arwisgwyd Y Tywysog Siarl fel Tywysog Cymru. Yn wahanol i'r seremoni yn 1911, bu cryn dipyn o wrthwynebiad i'r Arwisgiad yma gan genedlaetholwyr Cymreig. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.

Ymhlith y mudiadau oedd yn gwrthwynebu'r Arwisgiad, roedd Mudiad Amddiffyn Cymru. Ar 30 Mehefin 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.

Cafwyd ymateb gan feirdd Cymru hefyd. Mae rhai o'r cerddi mwyaf adnabyddus yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ymateb cenedlaetholgar i'r Arwisgiad a "gwaseidd-dra" rhai Cymry, ym marn y bardd. Mynegir y teimlad hwn yn gofiadwy yn y gerdd Fy Ngwlad, er enghraifft, sy'n agor a'r llinellau:

Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn.
Ein calon gan estron ŵr,
Ein coron gan gwncwerwr,
A gwerin o ffafrgarwyr
Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gerallt Lloyd Owen, 'Fy Ngwlad', yn Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 1972; sawl argraffiad ers hynny).