Mirain Llwyd Owen

Oddi ar Wicipedia
Mirain Llwyd Owen
Ganwyd1973 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, ymgyrchydd iaith Edit this on Wikidata
TadGerallt Lloyd Owen Edit this on Wikidata

Actores, awdures ac ymgyrchydd o Gymraes oedd Mirain Llwyd Owen (197313 Ionawr 2021). Roedd yn adnabyddus am chwarae Delyth Haf, y prif gymeriad yng nghyfres deledu Tydi Bywyd yn Boen ac fel awdur sgriptiau sawl drama Gymraeg ar S4C.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd ym Mangor yn ferch i Alwena a'r prifardd Gerallt Lloyd Owen ac fe'i magwyd yn Llandwrog gyda'i brawd a chwaer, Bedwyr a Nest.[1]

Mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon. Aeth ymlaen i astudio Llenyddiaeth Cymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn bymtheng mlwydd oed, cafodd ei hannog gan ei hathro Cymraeg i fynd am glyweliad ar gyfer Tydi Bywyd yn Boen. Enillodd y brif ran o Delyth Hâf yn yr addasiad teledu o'r nofel i bobl ifanc gan Gwenno Hywyn. Darlledwyd y gyfres yn 1990 a dychwelodd Mirain i'r rhan yn y gyfres Tydi Coleg yn Grêt yn 1993. [2]

Wedi gadael y coleg chwaraeodd ran Nyrs Anwen Jones tros saith cyfres o'r ddrama Pengelli rhwng 1995 a 2001. Bu hefyd yn actio mewn cyfresi drama eraill ar S4C fel Talcen Caled, gan chwarae Dorcas yn Y Stafell Ddirgel a Jo yn Rownd a Rownd.[3] Yn 2000 penderfynodd Mirain fynd ar gwrs sgriptio o dan y cynllun Cyfle. Aeth ymlaen i sgriptio nifer o gyfresi drama poblogaidd y sianel gan ddechrau ar Rownd a Rownd. Cafodd wahoddiad i fod yn un o driawd i sgriptio cyfres olaf Amdani ac aeth ymlaen i fod yn un o dîm sgriptio Tipyn o Stad. Bu hefyd yn sgriptio i Bobol y Cwm am dros ugain mlynedd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn ymgyrchydd brwd dros annibynniaeth i Gymru. Hi oedd aelod rhif 24 o'r mudiad YesCymru a bu'n gwasanaethu ar eu Pwyllgor Canolog yn 2019.

Cyn ei marwolaeth, priododd ei phartner o dros ugain mlynedd, Tim Walker.[4]

Marwolaeth a theyrngedau[golygu | golygu cod]

Yn 47 mlwydd oed, bu farw yn ei chartref ym Mryn Hyfryd, Caeathro, wedi salwch byr. Cynhaliwyd ei hangladd ar brynhawn Gwener, 22 Ionawr 2021 gyda gwasanaeth cyhoeddus ym Mynwent Llandwrog am hanner dydd.

Cafwyd sawl teyrnged iddi gan gydweithwyr. Dywedodd Nest Gwenllian Roberts, Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm, ei bod hi wastad yn bleser gweithio gyda Mirain. “Yn awdur cydwybodol, roedd hi’n meddwl yn ddwys am bob gair ac er yn dawel, roedd hi’n angerddol tu hwnt,” meddai.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Amanda Rees - "Bydd portread Mirain o Delyth Haf, prif gymeriad “Tydi Bywyd yn Boen” a “Tydi Coleg yn Grêt” yn rhan o atgofion ieuenctid nifer fawr o wylwyr S4C ... Mae colli Mirain mor gynnar yn golled i deledu yn gyffredinol ond yn golled enfawr i’w theulu a’i ffrindiau. Cydymdeimlwn yn fawr gyda Tim a’r teulu oll yn eu colled.”

Cyhoeddwyd neges ar gyfrif Twitter YesCymru, yn dweud "Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion Mirain Llwyd Owen a fu farw heddiw. ... Mae’r newyddion creulon yma’n ein hysgogi fwy i ymladd dros Gymru Rydd – dyna fasai Mirain eisiau ei weld".[5]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teitl Blwyddyn Rhan Cwmni Cynhyrchu Nodiadau
O.M. 1990 Hâf BBC Cymru
Tydi Bywyd yn Boen 1990 Delyth Haf Ffilmiau Eryri
Tydi Coleg yn Gret 1993 Delyth Haf Ffilmiau Eryri
Pengelli 1995-2001 Anwen Jones Ffilmiau'r Nant Cyfres 2-8
Rownd a Rownd Jo
Y Stafell Ddirgel 2001 Dorcas HTV, Ffilmiau Llifon
Talcen Caled 2004-2005 Magi Ffilmiau'r Nant Cyfres 4-5

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr actores a’r sgriptwraig Mirain Llwyd Owen wedi marw’n 47 mlwydd oed , Golwg360, 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021.
  2. Mwynhau her y Talcen Caled; Annes Glynn yn sgwrsio a'r act ores a'r sgriptwraig deledu, Mirain Llwyd Owen. , Daily Post, 13 Tachwedd 2004. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021.
  3. Cofio Mirain Llwyd Owen: 'Doedd neb craffach...' , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 28 Ionawr 2021.
  4. Yr awdures ac actores Mirain Llwyd Owen wedi marw , BBC Cymru Fyw, 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021.
  5. @YesCymru (13 Ionawr 2021). "Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion Mirain Llwyd Owen bu farw heddiw. Mirain oedd aelod rhif 24 o YesCymru a bu ar ein Pwyllgor Canolog yn 2019. Mae'r newyddion creulon yma'n ein hysgogi fwy i ymladd dros Gymru Rydd - dyna fasai Mirain eisiau ei weld" (Trydariad) – drwy Twitter.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]