Gwenno Hywyn
Gwedd
| Gwenno Hywyn | |
|---|---|
| Ganwyd | 1949 |
| Bu farw | 1991 |
| Man preswyl | Porthmadog, Pen-y-groes, Llundain, Llandwrog |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | nofelydd |
| Adnabyddus am | Tydi bywyd yn boen |
Awdures ac athrawes o Gymraes oedd Gwenno Hywyn (1949–1991). Ysgrifennodd nifer o nofelau poblogaidd ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys Tydi Bywyd yn Boen, a addaswyd i gyfres deledu yn 1990.
Magwyd Gwenno yn Llundain nes oedd yn 13 oed ac yna aeth i fyw ym Mhorthmadog a Phen-y-groes. Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Bangor a gweithiodd fel athrawes ail-iaith am gyfnod. Ym 1982 rhoddodd y gorau i ddysgu er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd hi'n briod a'r athro a bardd John Hywyn (bu farw Ebrill 2024) ac roedd ganddynt ddau o blant, Rhys a Nia.[2] Roeddent yn byw yn Llandwrog. Mae cofeb iddi ym Mharc Glynllifon.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Enillodd wobr Tir na n-Og yn 1988 am 'Tydi Bywyd yn Boen!.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau gwreiddiol
[golygu | golygu cod]- Anrheg Hud a Lledrith, Cyfres y Cyfarwydd (Gwasg Gomer, 1983)
- Gwledd Hud a Lledrith, Cyfres y Cyfarwydd (Gwasg Gomer, 1983)
- Hwyl Hud a Lledrith, Cyfres y Cyfarwydd (Gwasg Gomer, 1983)
- Rhyfeddod Hud a Lledrith, Cyfres y Cyfarwydd (Gwasg Gomer, 1983)
- Cyfrinach Betsan Morgan (Gwasg Gomer, 1986)
- Er Mwyn Benja! (Gwasg Gwynedd, 1987)
- 'Tydi Bywyd yn Boen! (Gwasg Gwynedd, 1987)
- Hafan Fach am Byth! (Gwasg Gomer, 1988)
- Y Tŷ ar y Clogwyn, Cyfres Baeheli: 1 (Gwasg Gwynedd, 1988)
- Bwthyn Lisi Meri, Cyfres Baeheli: 2 (Gwasg Gwynedd, 1988)
- Pioden y Nadolig, Cyfres Baeheli: 3 (Gwasg Gwynedd, 1989)
- Y Dyn yn y Fynwent, Cyfres Baeheli: 4 (Gwasg Gwynedd, 1989)
- 'Tydi Cariad yn Greulon! (Gwasg Gwynedd, 1990)
- Gwerfyl Gam (Gwasg Gomer, 1990)
- Modlen (Gwasg Gwynedd, 1991)
- Dyddiadur Delyth Haf, 1991 (Hughes, 1990)
- Dydi Pethau'n Gwella Dim! (Gwasg Gwynedd, 1992)
Addasiadau
[golygu | golygu cod]- Daniel Defoe, Robinson Crusoe, Clasuron Mawr y Plant (Gwasg Mynydd Mawr, 1983)
- Johanna Spyri, Heidi, Clasuron Mawr y Plant (Gwasg Gomer, 1986)
- Jacqueline Wilson, Cari Wyn: Ditectif y Ganrif! (teitl gwreiddiol: Stevie Day: Supersleuth), Cyfres yr Arddegau (Gwasg Gwynedd, 1989)
- Jacqueline Wilson, Cari Wyn: Cyfaill Cariadon (teitl gwreiddiol: Stevie Day: Lonely Hearts), Cyfres yr Arddegau (Gwasg Gwynedd, 1990)
- Jacqueline Wilson, Cari Wyn: "Gendarme" o Fri (teitl gwreiddiol: Stevie Day: Rat Race), Cyfres yr Arddegau (Gwasg Gwynedd, 1991)
- Maureen Potter, Cathreulig! (teitl gwreiddiol: The Theatre Cat), Llyfrau Cled (Gwasg Gwynedd, 1992)
- Richard Dennant, Helynt y Fideo (teitl gwreiddiol: The Video Affair), Cyfres Corryn (Gwasg Gomer, 1983)
- Penelope Lively, Dreigiau Bach Drwg (teitl gwreiddiol: Dragon Trouble), Llyfrau Lloerig (Gomer, 1989)
- Harriet Castor, Pws Pwdin a'i Ffrindiau (teitl gwreiddiol: Fat Puss and Friends), Llyfrau Lloerig (Cyhoeddiadau Mei, 1988)
- Harriet Castor, Pws Pwdin yn Cael Hwyl! (teitl gwreiddiol: Fat Puss on Wheels), Llyfrau Lloerig (Cyhoeddiadau Mei, 1990)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eco'r Wyddfa - Mai 1988. Eco'r Wyddfa (Mai 1988).
- ↑ "Y bardd John Hywyn wedi marw yn 76 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-04-02. Cyrchwyd 2024-04-02.