Heidi
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Johanna Spyri |
| Gwlad | Y Swistir |
| Iaith | Almaeneg, Almaeneg y Swistir |
| Dyddiad cyhoeddi | 1880 |
| Genre | ffuglen i blant |
| Cymeriadau | Heidi, Alm-Uncle, Peter, Klara Sesemann, Aunt Dete |
| Prif bwnc | plentyn amddifad |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Y Swistir, Yr Almaen, Alpau |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01d23j |
- Erthygl am y nofel yw hon. Gweler hefyd Heidi (gwahaniaethu).
Nofel Almaeneg am ddigwyddiadau ym mywyd geneth ifanc sy'n byw yng ngofal ei thaid yn Alpau'r Swistir yw Heidi (teitl llawn gwreiddiol: Heidis Lehr- und Wanderjahre "Blynyddoedd Crwydro a Dysgu Heidi"). Ysgrifennwyd y nofel, a gyhoeddwyd yn 1880 ac a ystyrir yn un o glasuron llenyddiaeth plant, gan yr awdures Swisaidd Johanna Spyri. Cafwyd dau olyniant Saesneg gan Charles Titten, a gyfieithodd y nofel Heidi o'r Almaeneg i'r Saesneg, sef Heidi Grows Up (Heidi yn tyfu i fyny) a Heidi's Children (Plant Heidi).
Gwnaethpwyd addasiad o'r nofel i'r Gymraeg gan Gwenno Hywyn. Gwasg Mynydd Mawr a gyhoeddodd y gyfrol yn y gyfres Clasuron Mawr y Plant a hynny yn 1983.
