Johanna Spyri
| Johanna Spyri | |
|---|---|
| Ganwyd | Johanna Louise Heusser 12 Mehefin 1827 Hirzel |
| Bu farw | 7 Gorffennaf 1901 Zürich |
| Dinasyddiaeth | Y Swistir |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, awdur plant |
| Adnabyddus am | Heidi |
| Tad | Johann Jakob Heusser |
| Mam | Meta Heusser-Schweizer |
| Priod | Johann Bernhard Spyri |
| Plant | Bernhard Diethelm Spyri |
| Perthnasau | Emilie Kempin-Spyri |
| llofnod | |
Awdures straeon i blant yn yr iaith Almaeneg sy'n adnabyddus fel awdures y clasur poblogaidd Heidi oedd Johanna Spyri (enw bedydd, Johanna Louise Heusser: 12 Mehefin, 1827, Hirzel, Y Swistir - 7 Gorffennaf, 1901, Zürich).
Yn ystod ei phlentyndod ymwelodd sawl gwaith yn yr haf â'r ardal o gwmpas Chur yn Graubünden, Y Swistir, a byddai'r ardal hon yn yr Alpau yn gefndir i'w gwaith llenyddol. Yn 1852, priododd Johanna Heusser y cyfreithiwr Bernhard Spyri ac aethant i fyw yn Zürich. Dechreuodd lunio straeon am fywyd yng nghefn gwlad y Swistir. Yn 1872 cyhoeddodd Heidi, hanes geneth amddifad sy'n byw efo'i thaid yn yr Alpau; mae'n llyfr sy'n enwog nid yn unig am ei ddisgrifiadau cofiadwy o fywyd gwerin y mynyddoedd ond am allu'r awdures i fynegi teimladau a safbwynt plant.
Bu farw ei gŵr a'i hunig fab yn 1884. Ymrododd Spyri i waith elusennol a pharhaodd i sgwennu gan gyhoeddi dros hanner cant o straeon arall cyn ei marw yn 1901. Daeth Spyri yn eicon cenedlaethol yn y Swistir. Cyhoeddwyd stamp gyda'i phortread arno yn 1951 a darn arian 20 Franc er ei anrhydedd yn 2001.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Bywyd a gwaith Johanna Spyri Archifwyd 2008-04-23 yn y Peiriant Wayback