Y Gân Olaf (Gerallt Lloyd Owen)
Awdur | Gerallt Lloyd Owen |
---|---|
Cyhoeddwr | Cyhoeddiadau Barddas |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781906396817 |
Genre | Barddoniaeth |
Cyfrol gan Gerallt Lloyd Owen yw Y Gân Olaf a gyhoeddwyd yn 2015 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]
Cyfrol o gerddi'r diweddar Gerallt Lloyd Owen (1944-2014), sy'n pontio'r 23 o flynyddoedd ers cyhoeddi'r gyfrol Cilmeri a Cherddi Eraill, gyda'r cerddi mwyaf diweddar wedi'u llunio ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth.
Cerddi
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol yn cynnwys nifer o farwnadau neu gerddi coffa:
- Dic (er cof am Dic Jones)
- Yn Angladd Moses Glyn Jones
- Bedwyr Lewis Jones
- Bob Lloyd (Llwyd o'r Bryn)
- Ffransis G. Payne
- Dafydd Orwig
- Gareth Mitford
- Rhiannon Davies Jones
Ceir hefyd cerddi dychanol megis Llan-faes, sy'n beirniadu'r penderfyniad i ganiatáu safle trin carthffosiaeth yn y pentref.
Mae nifer o'r cerddi'n myfyrio ar dreigl amser ac ar barhad:
Blagur
Mae'r henddail marw ynddynt yn deilio'n
ymgnawdoliad drwyddynt;
erioed pob dechrau ydynt
eleni pob geni gynt.[2]
Yn ogystal â'r cerddi, sy'n dwyn teitlau, mae'r gyfrol wedi ei britho â chwpledi a llinellau epigramatig:
Awr beryg' yw tri'r bore[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1]; Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 1 Awst 2017
- ↑ 2.0 2.1 Owen, Gerallt Lloyd (2015). Y gân olaf. Bala. ISBN 978-1-906396-81-7. OCLC 920668803.