Dafydd Orwig
Gwedd
| Dafydd Orwig | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Medi 1928 Deiniolen |
| Bu farw | 10 Tachwedd 1996 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
Cenedlaetholwr, cymwynaswr y Gymraeg ac addysgwr oedd Dafydd Orwig Jones (17 Medi 1928 - 10 Tachwedd 1996). Ganed yn Neiniolen, Gwynedd. Bu yn athro daearyddiaeth ac yn ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor. Roedd yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Gwynedd ac yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru. Ef olygodd yr Atlas Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1987.