Galwad y Mynydd
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|
Grŵp gwerin/pop o dref Caerfyrddin oedd Galwad y Mynydd. Fe'i ffurfiwyd gan bedwar aelod o Aelwyd yr Urdd Caerfyrddin yn 1971, sef Derec Brown (gitâr, organ geg, llais); Alwyn Daniels (gitar, llais); Eifion Daniels (gitâr fas, llais) a Mike Harries (drymiau). Derec Brown a ysgrifennai'r caneuon. Cafwyd yr enw Galwad y Mynydd o deitl llyfr gan Ioan Bowen Rees.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ar ôl i'r grŵp ryddhau dwy EP feinyl aeth Derec Brown yn ei flaen i fod yn aelod o Hergest a Cwrwgl Sam, ac yna i arwain ei fand roc ei hun, Derec Brown a'r Racaracwyr. Yn 2007 rhyddhawyd y caneuon cynnar ar grynoddisg gan label Finders Keepers. Mae'r nodiadau llawes yn cynnwys gair o werthfawrogiad gan y cerddor Gruff Rhys (mab Ioan Bowen Rees) a hanes manwl y grŵp gan Derec Brown. Yn 2011 daeth y pedwar at ei gilydd eto i recordio 10 o ganeuon newydd i Recordiau Fflach.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Galwad y Mynydd (EP 7", Recordiau'r Dryw, WRE1128, 1972)
- Merch yn Eistedd ar y Bryn (EP 7", Recordiau'r Dryw, WRE1137, 1973)
- Galwad y Mynydd (Albwm, Finders Keepers Records, FKR015CD, 2007)
- Galw Eto (Albwm, Recordiau Fflach, Fflach CD338N, 2011)