Neidio i'r cynnwys

Terwyn Davies

Oddi ar Wicipedia
Terwyn Davies
Ganwyd3 Ebrill 1979 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Darlledwr Cymraeg yw Terwyn Davies (ganwyd 3 Ebrill 1979), sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen materion gwledig a ffermio BBC Radio Cymru, Troi'r Tir.

Dyddiau Cynnar

[golygu | golygu cod]

Magwyd ef yn Nyffryn Aeron, Ceredigion, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Felin Fach ac yna Ysgol Gyfun Aberaeron. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru Bangor i ddilyn cwrs gradd mewn cyfathrebu, a chwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth.

Radio Ceredigion

[golygu | golygu cod]

Ymunodd â thîm cyflwyno Radio Ceredigion ym 1995, gan gyflwyno rhaglenni amrywiol fel "Yr Awr Gyfarchion" ac "Ar Dramp", a dwy awr o gerddoriaeth wlad wythnosol o'r enw "Gore Gwlad" - yr oedd yn cynnwys y gorau o ganu gwlad newydd o Unol Daleithiau America a chymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg hefyd.

BBC Radio Cymru

[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref 1999 wrth iddo fod yn y coleg ym Mangor, ymunodd â thîm cyflwyno BBC Radio Cymru lle bu'n cyd-gyflwyno Gang Bangor gyda Dylan Wyn ac Owain Gwilym. Yn 2000, cafodd bartner darlledu newydd, Stephen Edwards, a bu'r ddau'n cyd-ddarlledu ar Gang Bangor cyn ymuno â rhaglen C2.

Bu Terwyn yn cyd-gyflwyno slot hwyr C2 bob nos Iau a nos Wener rhwng 11 ac 1 yng nghwmni Stephen Edwards a Jeni Lyn, ac C2 ar fore Sadwrn rhwng 10.30 a 12.30pm. Yn ddiweddarach, symudwyd y slot boreol i slot yn y prynhawn rhwng 12.30 a 2pm o dan yr enw Steve a Terwyn.

Ym mis Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.

Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru fel gohebydd achlysurol. Bu hefyd yn gyfrannwr rheolaidd i raglen foreol Dafydd Du a Caryl Parry Jones, yn adolygu'r papurau dyddiol ysgafn.

Ym mis Ebrill 2009, bu Terwyn yn cyflwyno'r bwletinau newyddion amaeth dyddiol ar y Post Cyntaf yn achlysurol, tra bo'r cyflwynydd arferol, Dei Tomos ar ei wyliau. Yn 2010, bu hefyd yn cyflwyno rhaglen Geraint Lloyd gyda'r nos am rai misoedd yn dilyn ymadawiad Jonsi.

Ers 2020, mae Terwyn yn cyflwyno rhaglen materion gwledig a ffermio BBC Radio Cymru, Troi'r Tir. Mae'r rhaglen yn darlledu bob dydd Sul am 7am gydag ail-ddarllediad am 3.30pm.

Gwaith teledu

[golygu | golygu cod]

Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu Telesgop ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen Ffermio. Bu'n gynhyrchydd rhyngweithiol, yn gyfrifol am wefan Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen rhwng 2005 a 2008.

Rhwng mis Awst 2008 a Mai 2009, bu'n gweithio fel cyflwynydd a chynhyrchydd ar chwaer raglen Ffermio, sef Bwletin Ffermio fu'n darlledu ar S4C Digidol bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 1.30pm, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglenni radio arbennig ar gyfer gwefan Ffermio.tv.

Ym mis Mai 2009, bu Terwyn yn gweithio fel Cynhyrchydd ar gyfres newydd Bro ar S4C gyda Shân Cothi ac Iolo Williams, cyfres oedd yn ymweld ag ardaloedd gwahanol o Gymru bob wythnos, yn dod i adnabod yr ardal honno drwy ei hanes, ei thirlun a'i phobl.

Ym Mawrth 2011, ymunodd â thîm cyflwyno Ffermio[1][2] ar S4C am gyfnod, yn ystod cyfnod mamolaeth Daloni Metcalfe.

Gyrfa ysgrifennu

[golygu | golygu cod]

Mae Terwyn hefyd wedi cyd-ysgrifennu nifer o hunangofiannau a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar gofnodi bywydau unigolion nodedig yng Nghymru, yn enwedig ffigurau sy’n gysylltiedig â bywyd gwledig a darlledu.

Ei gyfrol gyntaf oedd ''Bywyd wrth Ben-Ôl Buwch'' (2014), a ysgrifennwyd gyda’i dad, Aneurin Davies. Mae’r llyfr yn adrodd profiadau Aneurin fel technegydd tarw potel yn teithio ar hyd ffyrdd gwledig gorllewin Cymru, gan gyfuno atgofion personol â hiwmor a chynnig cipolwg ar fywyd amaethyddol yng Ngheredigion.

Yn yr un flwyddyn, cyd-ysgrifennodd ''Tommo: Stori’r Sŵn Mawr'' gyda’r darlledwr Andrew Thomas, neu 'Tommo'. Mae’r hunangofiant yn cofnodi gyrfa Tommo ym maes darlledu Cymraeg ac yn adlewyrchu diwylliant radio yng Nghymru.

Yn 2015 cyhoeddwyd ''O Ffyrgi i Ffaro: Hunangofiant Bryan yr Organ'', a ysgrifennwyd gyda Bryan Jones, sy’n adrodd hanes Bryan yr Organ - cerddor a chefnogwr rygbi adnabyddus o Geredigion.

Bywyd wrth Ben-Ôl Buwch (gyda Aneurin Davies). Gwasg Gomer, 2014. ISBN 9781848517189.[3]

Tommo: Stori’r Sŵn Mawr (gyda Andrew Paul Thomas). Gwasg Gomer, 2014. ISBN 9781848518971.[4]

O Ffyrgi i Ffaro: Hunangofiant Bryan yr Organ (gyda Bryan Jones). Gwasg Gomer, 2015. ISBN 9781785620614.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Radio DJ returns to rural roots as new Ffermio presenter, Andrew Forgrave Archifwyd 2012-09-29 yn y Peiriant Wayback, Daily Post 10 Mawrth 2011
  2. Wyneb newydd i raglen Ffermio, Golwg 360 4 Mawrth 2011
  3. "Bywyd wrth Ben-Ôl Buwch". Gwales. Cyrchwyd 18 Chwefror 2026.
  4. "Tommo: Stori'r Sŵn Mawr". Gwales. Cyrchwyd 18 Chwefror 2026.
  5. "O Ffyrgi i Ffaro: Hunangofiant Bryan yr Organ". Gwales. Cyrchwyd 18 Chwefror 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]