Shân Cothi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shân Cothi
Ganwyd Shân Margaretta Morgan
1965 (50–51)
Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Baner Cymru Cymru
Cartref Caerdydd
Cenedligrwydd Cymru Cymro
Yn enwog am Phantom of the Opera, Con Passionate
Galwedigaeth Cantores, actores, cyflwynydd teledu

Cantores, actores a chyflwynydd teledu yw Shân Cothi (ganwyd Hydref 1965).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei geni a'i magu yn Ffarmers, Sir Gaerfyrddin yn ferch i of. Ei enw bedydd yw Shân Margaretta Morgan a roedd yn cael ei hadnabod fel Shân y Gof yn lleol. Mabwysiadodd ei henw llwyfan pan oedd yn un o ddwy Shân Morgan yn cystadlu yn Eisteddfod Aberteifi yn blentyn.[1]

Astudiodd gerddoriaeth a drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers hynny, cafodd ei anrhydeddu gan Gymrodoriaethau wrth Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes gerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Caereinion, Powys cyn symud i Ysgol Gyfun Ystalyfera yn ne Cymru. Ym 1995, enillodd y Wobr Rhuban Glas aruchel yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 a anogodd hyn iddi droi'n gantores broffesiynol.

Mae Cothi wedi perfformio ledled y byd mewn amryw o leoliadau, o Ganolfan Mileniwm Cymru i'r West End, o Neuadd Albert Frenhinol i Westy Kowloon Shanghai, Hong Kong. Dengys ei gyrfa ei hystod eang o arddulliau cerddorol, o opera i oratorio, theatr gerdd i ganeuon traddodiadol Cymreig.

Ym 1998-1999, cafodd Cothi ei rhaglen deledu ei hun ar S4C a redodd am ddwy gyfres. Enillodd wobr BAFTA hefyd a chafodd ei henwebu am y rhaglen gerddoriaeth orau yng Ngŵyl Montreaux.

Daeth llwyddiant mawr Cothi ar ôl iddi gael clyweliad gyda Syr Cameron Mackintosh. Yn 2000, cynigiwyd rôl Carlotta tanllyd iddi yn sioe gerdd yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber, Phantom of the Opera. Perfformiodd y rôl am 15 mis yn Theatr y Frenhines yn y West End.

Yn 2005, cafodd Cothi rhan Davina Roberts, arweinydd "Côr Meibion Gwili" yn y gyfres ddrama deledu Con Passionate ar S4C. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol, gan ennill sawl BAFTA a'r wobr gyntaf yn seremoni gwobrwyo Rose d'Or. Yn 2008, ail-recordiodd Shân, ynghyd a Bryn Terfel a gweddill aelodau Tigertailz y gân "I Believe" yn ogystal a fideo sy'n newid rhwng Terfel a Cothi'n canu eu rhannau hwy o'r gân.

Yn 2009, dechreuodd Shân gyd-gyflwyno'r gyfres Bro ar S4C gydag Iolo Williams - cyfres sy'n eu gweld nhw'n teithio i bob cwr o Gymru i ddod i adnabod ardaloedd yn well, drwy'r tirlun, yr hanes a'r bobl sy'n byw yno.

Ar 30 Awst, 2007 priododd ei phartner hir-dymor Huw Justin Smith, a adwaenir orau fel y cerddor Pepsi Tate. Ar y 18 Medi, 2007, lai na mis wedi iddynt briodi bu farw Smith o gancr y pancreas ym Mhenarth, Caerdydd.[2]

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  BBC - Llais Llên. BBC. Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  2. Farewell event for rock musician. BBC Wales. Adalwyd 30-08-2009

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]